Chwe Scarlet wedi’u henwi i ddechrau yn erbyn Lloegr Dydd Sadwrn

Rob Lloyd Newyddion

Mae Wayne Pivac wedi dewis chwe Scarlet i ddechrau’r gêm yn erbyn Lloegr ym Mharc y Scarlets Dydd Sadwrn yn y rownd nesa o Gwpan Cenhedloedd yr Hydref (16:00, Amazon Prime/S4C).

Gyda nifer o’r Gorllewin Gwyllt yn y garfan, bydd ochr Pivac yn anelu i gynhyrfu’r hen gelyn allan ar y cae yn Llanelli.

Leigh Halfpenny sydd i ddechrau yn safle’r cefnwr gyda Josh Adams a Louis Rees-Zammit i’w ymuno fel cefnwyr. Mae Liam Williams allan o’r ôl derbyn anaf i’w wyneb penwythnos diwetha’. Yn dilyn ei berfformiad trawiadol yn erbyn Georgia, mae Johnny Williams i ddechrau fel canolwr yn erbyn ei wlad enedigol.

Roedd perfformiad sgrymio Wyn Jones a Samson Lee penwythnos diwetha’ yn ddigon i gadarnhau eu dechreuad yn erbyn Lloegr Dydd Sadwrn yma, gyda Ryan Elias yn ymuno nhw fel bachwr yn y rheng flaen. Bydd Jake Ball yn ennill ei 49fed cap i Gymru wrth ochr y capten Alun Wyn Jones yn yr ail-reng.

“Mae Dydd Sadwrn yn gyfle ardderchog arall i ni ac i’r garfan” dywedodd Pivac.

“Mae’n siawns arall i ni i ddangos beth rydym wedi bod yn gwneud yn ymarferion yn yr wythnos, a rhoi hynny i waith. Rydym yn edrych ymlaen at Ddydd Sadwrn, ac yn ffocysu ar beth sydd angen i ni wneud.”

Ar y fainc i’r rheng flaen mae Elliot Dee, Rhys Carré a Tomas Francis, gyda Will Rowlands ac Aaron Wainwright yn cwblhau’r blaenwyr. Rhys Webb, Callum Sheedy ac Owen Watkin fydd yn eilyddion i’r cefnwyr

Cymru v Lloegr (Cwpan Cenhedloedd yr Hydref; Dydd Sadwrn, Tachwedd 28, 16:00) 

15 Leigh Halfpenny (Scarlets); 14 Josh Adams (Gleision Caerdydd), 13 Nick Tompkins (Dreigiau), 12 Johnny Williams (Scarlets), 11 Louis Rees-Zammit (Caerloyw); 10 Dan Biggar (Northampton Saints), 9 Lloyd Williams (Gleision Caerdydd); 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Samson Lee, 4 Jake Ball (Scarlets i gyd), 5 Alun Wyn Jones (Gweilch, capt), 6 Shane Lewis-Hughes (Gleision Caerdydd), 7 Liam Botham (Gleision Caerdydd), 8 Taulupe Faletau (Caerfaddon).

Reps: 16 Elliot Dee (Dreigiau), 17 Rhys Carré (Gleision Caerdydd), 18 Tomas Francis (Caerwisg), 19 Will Rowlands (Wasps), 20 Aaron Wainwright (Dreigiau), 21 Rhys Webb (Gweilch), 22 Callum Sheedy (Eirth Bryste), 23 Owen Watkin (Gweilch).