Ciciwch fel Leigh Halfpenny y Nadolig hwn!

Rob LloydNewyddion

Hoffwch ddysgu sut i gicio fel Leigh Halfpenny?

Dyma eich cyfle i fynd allan ac ymarfer eich cicio wrth gyfrannu at achos da.

Yn ystod pandemig Covid-19 eleni, mae Sefydliad Cymunedol y Scarlets wedi partneri gyda chlybiau lleol i allu dosbarthu 1,200 o becynnau bwyd i unigolion, teuluoedd ac yr henoed mewn cartrefi gofal.

Nawr, mae’r sefydliad yn edrych i godi mwy o arian er mwyn gallu ariannu rhoddion yn 2021, felly pwy gwell i ddechrau’r ymgyrch ond cefnwr y Scarlets, Cymru a’r Llewod Leigh Halfpenny.

Gwyliwch diwtorial Leigh ar sut i gicio ar ein sianeli cymdeithasol, ac ewch a’ch pêl rygbi i’ch caeau lleol a dangoswch i ni eich sgiliau!!

Ciciwch fel Leigh! 

Fel rhan o’r Sialens Ciciau Nadolig, rydym yn eich gwahodd i gyfrannu beth allwch i Sefydliad Cymunedol y Scarlets. Gallwch fynd yn syth at y linc i gyfrannu, neu gallwch annog eich ffrindiau i gymryd rhan wrth lawrlwytho ffurflen arbennig Cochyn, a gofyn i aelodau o’r teulu i eich noddi. Mae at achos gwych.

CLICIWCH YMA I LAWRLWYTHO’R FFURFLEN

Os hoffwch ffilmio eich hun yn cicio at y pyst, danfonwch eich fideo atom ar ein sianeli cymdeithasol neu e-bostiwch [email protected] ac fe gyfunwn mewn fideo.

Dyma’r linc i gyfrannu  Ewch amdani!

#ScarletsChristmas #NadoligScarlets