Conbeer yn barod i wynbeu’r brwydr yn erbyn Ulster

Rob Lloyd Newyddion

Wrth i’r Scarlets teithio i Belfast penwythnos yma, mae’r asgellwr Ryan Conbeer yn benderfynol i gynnal ei berfformiad gwych.

Yn ystod ei ddau ymddangosiad diwetha’, mae Conbeer wedi croesi’r llinell gais tair o weithiau, yn cynnwys dau gais serennog yn y gêm yn erbyn Connacht.

Mae sialens arall yn aros i’r tîm ar draws y môr Iwerydd ar ddydd Sul pan fydd Ulster yn awyddus i barhau ei record glân, ac mae Conbeer yn edrych ymlaen at gwrdd y bois o Ogledd Iwerddon.

“Mae’n anodd ennill i ffwrdd o Barc y Scarlets, yn enwedig chwarae’r timoedd Gwyddelig. Gobeithio fe gawn ni tywydd da a gallu chwarae’n dda mas ‘na.”

“Er iddi fod yn ddechreuad anodd i’r tymor, mae ‘na ddigon i ni fod yn falch ohono, ac mae angen i ni gadw gweithio’n galed, cadw gwella ein hunain a gwella fel tîm.”

Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae gan Conbeer atgofion melys o chwarae yn erbyn Ulster, yn enwedig pan sgoriwyd cais anhygoel ar ei ymddangosiad cyntaf i’r PRO14 ym Mharc y Scarlets dwy flynedd yn ôl.

“Sgoriais fy nghais cyntaf i’r Scarlets ar ôl ddod oddi’r fainc.

Mae’n bwysig i gymryd bob cyfle ac i ddal ati, a wedyn gobeithio cael fy newis i’r tîm nesa’.”

“Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol a llewod yn y garfan, felly mae ‘na digon o gystadleuaeth ond mae’n dda i gael y gystadleuaeth yna.”

“I ymarfer nesa at fois fel Leigh, Liam a Johnny mae’n deimlad anhygoel, a ma’ nhw’n ddigon parod i helpu. Fel chwaraewr ifanc mae’n grêt i gael pobl mor brofiadol sy’n fodlon helpu.”

“Pan mae’r bois bant gyda thîm Cymru, mae rhaid i ni wedyn codi’r lefel a pherfformio ar ein gorau.”