Croeso nôl! Tomi Lewis yn dychwelyd i’r Scarlets

Gwenan Newyddion

Yr asgellwr Tomi Lewis sydd yn dod nôl i’r Scarlets tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb i adael Jersey Reds.

Mae Lewis wedi creu argraff dda i’r tîm ar frig y bencampwriaeth, gan sgori 11 cais yn y gynghrair dros y tymor, gan gynnwys ymdrechion unigol arbennig.

Wedi’i gapio i Gymru saith bob ochr a D20, bydd y chwaraewr 24 oed yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar ôl treulio tymor gyda’r Reds.

Wedi gwella o anaf hirdymor i’w ben-glin, fe adawodd Lewis y Scarlets ar ddiwedd tymor 2021-22 gyda dau ymddangosiad i’w enw.

Ar ôl perfformiadau da yn Jersey, mae ei geisiau i’r clwb wedi helpu’r ynyswyr i gyrraedd y rowndiau terfynol o’r gynghrair.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddod nôl i’r Scarlets a herio am le yn yr ochr tymor nesaf,” dywedodd yr asgellwr.

“Mae wedi bod yn wych i wylio’r bois yn cyrraedd y rownd gynderfynol o’r Cwpan Her ac mae’n gyffroes i weld y steil o chwarae mae’r grŵp wedi mabwysiadu i gyrraedd y lle yna.

“Dw i wedi cael amser da yn Jersey, dw i wedi chwarae llawer o rygbi a theimlaf fy mod wedi datblygu fel chwaraewr. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a’r holl staff yn y clwb a gobeithio, fe allwn orffen ar nodyn uchel gan godi’r cwpan am y teitl penwythnos yma.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae gan Tomi talent go iawn, mae’n chwaraewr gyda chyflymder sydd yn anelu at y llinell gais bob tro. Mae wedi bod ar dân i Jersey tymor yma a bydd wedi dysgu llawer o’i dymor yn y Gynghrair.

“Bydd Tomi yn ychwanegiad gyffroes i’r grŵp o chwaraewyr sydd gennym yn barod yn y clwb.”