Mae Crys 16 Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Scarlets wedi nodi penodiadau Simon Muderack a Sean Fitzpatrick fel “cam cyffrous” i’r clwb.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth sedd ar y Bwrdd i sicrhau bod cefnogwyr yn parhau i fod yn wybodus ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r pâr yn dilyn y newyddion am eu rolau newydd gyda’r Scarlets.
Mae Simon Muderack yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd Gweithredol newydd y Scarlets yn dilyn penderfyniad Nigel Short i ymddiswyddo ar ôl naw mlynedd wrth y llyw, tra bod Sean Fitzpatrick y Crysau Duon i fod yn gyfarwyddwr anweithredol a llysgennad byd-eang.
Dywedodd cynrychiolydd Crys 16, Neil Bathgate: “Mae’r tryloywder y mae’r clwb wedi’i ddangos trwy wahodd Crys16 i eistedd ar Fwrdd y Scarlets wedi caniatáu i ni weld o lygad y ffynnon raddfa a chymhlethdod yr heriau y mae ein clwb yn eu hwynebu, cyn ac ar ôl Covid-19.
“Mae cryfder ein timau Bwrdd a rheoli wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiannau’r Scarlets yn ddiweddar, ac mae’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ein gwynebu yn parhau i dyfu.
“Rydym yn gweld penodiad Simon yn gadeirydd gweithredol fel cam naturiol a chyffrous i’r clwb ei gymryd ar yr adeg hon i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn barod ar gyfer y dyfodol.
“Mae’n wych cael rhywun o safon Sean yn ymuno â’r Bwrdd, mae ei gyflawniadau chwarae a’i waith cyfryngau wedi’u dogfennu’n dda ond rydym hefyd yn gyffrous am safbwyntiau newydd y bydd yn dod â nhw o’i brofiadau ym maes gweinyddu rygbi ledled y byd, yn gweithio gyda sefydliadau ac elusennau ar draws sawl chwaraeon gwahanol a gwaith llysgenhadol gyda rhai brandiau enfawr.
“Rydyn ni’n siŵr y bydd Sean yn ychwanegiad gwych at ein Bwrdd sydd eisoes â phrofiad a ffocws uchel iawn, gan roi hyder pellach i gefnogwyr bod y clwb yn parhau i symud ymlaen gydag uchelgais mawr.
“Hoffem ddymuno pob llwyddiant i Simon a Sean ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw.”