Cyfle i ennill gwobrau wrth chwarae FanScore

Natalie Jones Newyddion

Ydych chi’n gwneud rhagfynegiadau yn rheolaidd ar #ScarletsFanScore? Ydych? Mae gennym gystadleuaeth wych i chi!

Mae app Scarlets FanScore yn ffordd wych o gymryd rhan ar ddiwrnod y gêm. Gallwch wneud eich rhagfynegiadau eich hun am sgoriwr y cais cyntaf, y sgôr terfynol, seren y gêm a llawer mwy!

Bydd cefnogwyr a fydd yn mynychu gêm y Scarlets yn erbyn y Dreigiau ym Mharc y Scarlets, nos Wener 5ed Ionawr, yn cael cyfle i ennill hampyr cynnyrch bwyd Cymreig gan CK Supermarkets a dwy siec cyw iâr gan Nando’s Llanelli.

I gael cyfle i ennill y cyfan sydd angen i chi wneud yw lawrlwytho’r app a gwneud eich rhagfynegiadau! Lawrlwythwch yr app NAWR! http://scarletsf.ansco.re/

  1. Bydd y person sy’n rhagfynegi’r Sgoriwr Cais Cyntaf yn derbyn yr hampyr gan CK Supermarkets. Os nad oes rhagfynegiadau cywir, yna rhoddir i’r sgoriwr pwyntiau uchaf. Os bydd mwy nag un ar yr un sgôr fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
  2. Bydd y person sy’n rhagfynegi amser cywir y cais cyntaf yn derbyn siec cyw iâr gan Nando’s Llanelli. Os nad oes rhagfynegiadau cywir, rhoddir gwobr i’r ail sgôr pwyntiau uchaf ar gyfer y gêm. Os bydd mwy nag un ar yr un sgôr fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
  3. Bydd y person sy’n rhagfynegi Seren y Gêm cywir yn derbyn siec cyw iâr gan Nando’s Llanelli. Os nad oes rhagfynegiadau cywir, rhoddir gwobr i’r trydydd sgôr pwyntiau uchaf ar gyfer y gêm. Os bydd mwy nag un ar yr un sgôr fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.

*Mae’r gystadleuaeth ar agor i’r rheini a fydd yn bresennol ym Mharc y Scarlets nos Wener. Rhaid cael tocyn gêm / tocyn tymor dilys i gasglu’r gwobrau.