Ydych chi erioed wedi ystyried noddi pobl fel Gareth Davies neu aelodau newydd carfan Cymru Kieran Hardy neu Josh Macleod?
Wel, mae’r Scarlets yn cynnig cyfle gwych i gysylltu’ch busnes â rhai o’r talentau gorau ym myd rygbi Cymru.
Mae gennym grŵp o chwaraewyr sy’n cydio yn y pennawdau ar gael i’w noddi ar gyfer tymor 2020-21 a gallwch ddewis o blith chwaraewyr rhyngwladol sefydledig, sêr tramor neu’r unigolion mawr nesaf mewn crys Scarlets!
Mae pecynnau nawdd yn cynnwys y buddion yma;
- Cyflwyniad i’r chwaraewr noddedig ac ymddangosiad at ddefnydd hyrwyddo gan y busnes
- Crys wedi’i fframio, wedi’i arwyddo gan y garfan chwarae
- Logo busnes i’w gynnwys ochr yn ochr â chwaraewr noddedig ar y wefan
- Logo busnes i’w gynnwys ochr yn ochr â chwaraewr noddedig yn y rhaglen
- Logo busnes i ymddangos ochr yn ochr â’r chwaraewr noddedig mewn GIFs cyfryngau cymdeithasol bob tro mae’r chwaraewr noddedig yn sgorio
- Cyhoeddiad stadiwm bob tro y mae chwaraewr a noddir yn sgorio
- Gwahoddiad i ddigwyddiad diwedd tymor ochr yn ochr â noddwyr chwaraewyr eraill
I ddarganfod mwy am sut y gallwn gynyddu amlygiad eich busnes, cysylltwch â ni ar [email protected] neu ffoniwch ni ar 01554 783944