Bydd y Scarlets yn gwynebu y Pencampwyr Guinness PRO14 Leinster ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 30 (GC 19:35) mewn gêm sydd wedi’i aildrefnu.
Cafodd rownd 8 o’r gystadleuaeth oedd yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets ei ohirio ar ddiwedd mis Tachwedd oherwydd Covid-19.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddau dîm gwrdd ers dwy flynedd ac fe fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C a Premier Sports.
Mae dyddiadau ar gyfer rowndiau 12 i 16 ac ar gyfer Cwpan Enfys Guinness PRO14 yn cael ei threfnu.