Mae Sefydliad Cymunedol y Scarlets wedi cwblhau ei Daith de Scarlets, gan ymweld â 53 o glybiau cymunedol ar draws rhanbarth y Scarlets.
Ar hyd pedwar ddiwrnod heriol, fe lwyddodd swyddog Sefydliad Gymunedol Rhodri Jones, prif tirmon Luke Jenkins ac arwr y Crysau Duon Sean Fitzpatrick i seiclo 350 o filltiroedd gan alw i mewn i glybiau yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion i godi arian i rygbi cymunedol.
Fe ymunodd aelodau o garfan y Scarlets megis llysgennad y Sefydliad Rhys Patchell, Josh Macleod, Daf Hughes, Iestyn Rees, Marc Jones, Luke Davies a hyfforddwr y cefnwyr Dai Flanagan ar hyd y ffordd.
Fe gefnogodd Prif Weithredwr grwp Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, trwy ymweld a’r seiclwyr ar eu clwb diwethaf o’r daith yng Nghlwb Rygbi yr Hendi.
Fe orffennodd y daith ym Mharc y Scarlets ar nos Iau lle roedd llawer o gymeradwyeth gan staff y Scarlets, cefnogwyr a theuluoedd.
Hoffir y Sefydliad Cymunedol ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith ac i rheiny sydd wedi rhoi i’r achos, gyda dros £6,500 wedi’i godi yn barod.
Dywedodd swyddog Sefydliad Cymunedol y Scarlets Rhodri Jones: “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i ymweld â phob clwb yn y rhanbarth a chwrdd a llawer o bobl hyfryd ar hyd y ffordd sydd wedi rhoi llawer o waith i mewn i’r gêm cymunedol.
“Diolch enfawr i bawb stdd wedi dod i gefnogi, mae wedi golygu llawer i ni, ac i bawb sydd wedi rhoi i’r Sefydliad, bydd pob ceiniog rydym wedi codi yn mynd nôl i rygbi cymunedol.”
Dywedodd cyn gapten y Crysau Duon, ac nawr yn Gyfarwyddwr Weithredol i’r Scarlets, Sean Fitzpatrick: “Roedd hi’n brofiad anhygoel i mi, fe aeth a fi nôl i rygbi cymunedol.
“Weithiau mae’n rhwydd i anghofio am y gêm cymunedol; mae mor bwysig i rygbi. Y clwb rygbi ydy canolbwynt nifer o gymunedau ac maen nhw wedi bod yn dda iawn i ni; mwynheais gweld sut mae’r gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan i helpu gadw eu clybiau i fynd.
“Ymdrech rhagorol gan Rhodri, Luke a’r staff gefnogol sydd wedi chwarae eu rhan ac mawr obeithiwn bydd pobl yn parhau i roi i’r achos ar y tudalen JustGiving wrth i bob ceiniog fynd yn ôl at y clybiau.”
Os hoffwch rhoi i’r achos ewch i’r tudalen justgiving yma
Yn y llun uchod mae (o’r chwith i’r dde) Sean Fitzpatrick, Luke Jenkins a Rhodri Jones ar ôl cwblhau’r daith ym Mharc y Scarlets.