Cystadleuaeth! Cyfle i ennill profiad diwrnod gêm yng nghwmni Phil Bennett a Sean Fitzpatrick gyda diolch i Sporting Wine Club
Rydym yn cydweithredu gyda’n partneriaid Sporting Wine Club i gynnig disgownt unigryw a gwobrau anhygoel i gefnogwyr y Scarlets.
P’un ai’n paratoi am y Nadolig neu am roi anrheg i rywun annwyl, gallwch dderbyn gostyngiad o 50% wrth brynu o gasgliad gwin y pêl-droediwr byd-enwog Lionel Messi ‘L10 Collection’ yn ogystal â chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth ble fydd cyfle i ennill…
- 1af – Profiad bythgofiadwy o wylio gêm y Scarlets mewn ‘stafell lletygarwch preifat yng nghwmni Phil Bennet, Sean Fitzpatrick a Simon Halliday.
- 2il – Crys Scarlets wedi’i arwyddo
- 3ydd – Gwinoedd ‘L10’ Lionel Messi
I gystadlu yn y gystadleuaeth dilynwch y linc isod, dewiswch eich hoff win o’r casgliad ‘L10’ a chofiwch ddefnyddio’r cod SCARLETS50 wrth dalu i dderbyn eich gostyngiad o 50%.
sportingwineclub.com/sporting-wines-spirits/
Sefydlwyd Sporting Wine Club gan gyn-ganolwr Caerfaddon, Harlequins a Lloegr Simon Halliday, ac mae gan y cwmni enw da am gynhyrchu gwin a gwirodydd o safon uchel sydd â chysylltiad unigryw i straeon y byd chwaraeon.
Bydd y gystadleuaeth yma yn cau ar y 16eg o Ragfyr, ond fydd y gostyngiad ar gael hyd at Nadolig.
- *Yn amodol ar gyfyngiadau Covid