Cystadleuaeth RAG yn parhau ddydd Mercher yma yn Ystrad Mynach a Pontypridd

Natalie Jones Newyddion yr Academi

Ar hyn o bryd mae’r tîm dan 18 oed yn eistedd yn gyffyrddus yn yr ail safle ym Mhencampwriaeth RAU WRU ar ôl buddugoliaeth wych o 26-14 ddydd Sul diwethaf yn erbyn RGC ym Mharc y Scarlets. Maent yn gwynebu’r Dreigiau yfory, dydd Mercher 12fed o Chwefror yn CCB Ystrad Mynach, CG 19:15. Bydd hon yn frwydr am yr ail safle yn y gystadleuaeth gan fod y Dreigiau ar hyn o bryd yn y 3ydd safle.

Mae'r Prif Hyfforddwr Euros Evans yn gwneud chwe newid i'w XV cychwynnol. Mae Dylan Richards yn symud o'r cefnwr i'r asgell dde gydag Alex Wainwright yn eistedd yn safle’r cefnwr. Mae Luke Davies yn cymryd lle Archie Hughes yn safle’r mewnwr yn partneru gyda Josh Phillips fel maswr. Mae Morgan Macrae yn symud i'r fainc fel bachwr wrth i Lewis Morgan gymryd y rôl cychwynnol. Joe Franklin-Cooper sy’n cael y nod fel flaenasgellwr gyda chymorth Leon Samuel yn rhif 8.

Tîm Dan 18 Scarlets i wynebu'r Dreigiau, Ystrad Mynach, dydd Mercher 12fed o Chwefror, CG 19:15

15 Alex Wainwright, 14 Dylan Richards, 13 Rhun Phillips, 12 Eddie James, 11 Josh Evans, 10 Josh Phillips, 9 Luke Davies ©, 1 Sam O'Connor, 2 Lewis Morgan, 3 Tomas Pritchard, 4 Aaron Howles, 5 Caleb Salmon, 6 Joe Franklin-Cooper, 7 Caine Rees- Jones, 8 Leon Samuel

Eilyddion: 16 Morgan Macrae, 17 Dylan Smith, 18 Lewis Ellar, 19 Ben Gregory, 20 Lewis Clayton, 21 Harry Williams, 22 Aled Davies, 23 Louis Rees

-----

Mae tîm Dan 16 oed Scarlets y Gorllewin hefyd ar waith yfory, dydd Mercher 12fed o Chwefror, CG 19:30 yn Heol Sardis, Pontypridd i wynebu Gleision Caerdydd y Gogledd sydd uwchben ar hyn o bryd yn nhabl y Bencampwriaeth. Maent yn edrych ar barhau i fod yn fuddugol ar ôl buddugoliaeth enfawr yn erbyn Dreigiau Coch gan arwain at sgor derfynol o 22-7.

Dim ond pum mân newid y mae'r Prif Hyfforddwr Tim Poole yn eu gwneud i'w XV cychwynnol. Mae Josh Hathaway yn cael ei ddisodli gan Harry Fuller yn y cefnwr, tra bod Matthew Miles yn dod i mewn ar yr asgell chwith. Daw Sam Miles i mewn yn safle’r maswr i fod yn bartner gyda Lucca Setaro fel mewnwr. Ioan Lewis sy'n cael y nod ar y prop pen tynn yn ogystal ag Ioan Charles fel  blaenasgellwr. Mae Rhys Lewis yn cymryd yr awennau fel capten.

Tîm dan 16 Scarlets y Gorllewin i wynebu Gogledd Gleision Caerdydd, Heol Sardis Pontypridd, dydd Mercher 12fed o Chwefror, CG 19:30

15 Harry Fuller, 14 Dafydd Jones, 13 Harry Davies, 12 Gruffydd Morgan, 11 Matthew Miles, 10 Sam Miles, 9 Lucca Setaro, 1 Thomas Cabot, 2 Tom Mason, 3 Ioan Lewis, 4 Benjamin Hesford, 5 Rhys Lewis ©, 6 Jac Delaney, 7 Ioan Charles, 8 Shane Evans

Eilyddion: 16 Harri Phillips, 17 Saul McGrath, 18 Steffan Holmes, 19 Jack Llewellyn, 20 Zack Stewart, 21 Iori Humphreys, 22 Ifan Vaicaitis, 23 Owen Llewellyn

Daliwch yr holl cyffro draw ar Trydar @ScarletsAcademy!