Cytundeb newydd i Archie Hughes

GwenanNewyddion

Un o dalentau ifanc rygbi Cymru, mewnwr D20 Cymru Archie Hughes, ydy’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Wedi dechrau ei rygbi cynnar gyda Chlwb Rygbi Dinbych y Pysgod, gadawodd Archie argraff dda yn ystod ei ymddangosiad cyntaf i’r garfan hŷn mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Nottingham gan sgori dau gais ym Mharc y Scarlets dwy flynedd yn ôl.

Gwnaeth y chwaraewr 20 oed ei ymddangosiad URC cyntaf yn erbyn Cell C Sharks yn Durban llynedd a chwaraeodd mewn dwy gêm gynghrair yn ystod y tymor 2022-23. Fe oedd dewis cyntaf mewnwr Cymru yn ystod y Bencampwriaeth Chwe Gwlad D20 a chafodd ei enwi yng ngharfan Mark Jones ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Byd D20 yn Ne Affrica yn hwyrach mis yma.

Bydd Hughes yn herio’r chwaraewyr rhyngwladol Gareth Davies a Kieran Hardy am grys rhif 9 y Scarlets tymor nesaf.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Bydd unrhywun a wyliodd Cymru yn ystod y Chwe Gwlad D20 wedi’u cyffroi gan botensial Archie. Mae’n rhedwr da sydd yn barod i ddysgu wrth y mewnwyr rhyngwladol sydd gyda ni yma yn y clwb. Mae’n gweithio’n galed yn ystod ymarferion ac rydym yn edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad yn ystod y tymor nesaf.”

Dywedodd Archie Hughes: “Roedd hi’n wych i gael y cyfle i ymarfer gyda’r garfan hŷn dros y blynyddoedd diwethaf a chael y cyfle i ddysgu wrth hyfforddwr fel Dwayne, sydd gyda’r profiad fel mewnwr i Gymru a’r Llewod, a hefyd chwaraewyr fel Gareth a Kieran sydd wedi bod yn fuddiol i fy natblygiad.

“Roeddwn yn falch iawn i wneud fy ymddangosiad URC cyntaf allan yn Ne Affrica a gobeithio fe allai wthio ymlaen i wneud mwy o ymddangosiadau dros y tymor nesaf.”