Cytundeb newydd i Harri O’Connor

GwenanNewyddion

Mae chwaraewr rhyngwladol diweddara’ Scarlets Harri O’Connor wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Fe wnaeth y prop pen tynn ei ymddangosiad cyntaf yn 2020 ac erbyn heddiw wedi ymddangos 36 o weithiau i’r Scarlets, 15 o fewn y tymor yma.

Ar ôl chwarae yng ngêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ym mis Tachwedd, fe ddaeth O’Connor ymlaen am ei gêm Prawf cyntaf yn erbyn yr Eidal ar ddiwedd ymgyrch y Chwe Gwlad – chwaraewr rhif 254 i gynrychioli’r Scarlets ar y llwyfan rhyngwladol.

Wedi’i eni yn Northallerton yng Ngogledd Yorkshire, chwaraeodd ‘HOC’ ei rygbi cynnar i Glwb Rygbi Dorchester cyn iddo ymuno ag Academi’r Scarlets gyda’i frawd Sam.

Dywedodd Harri: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel, o wneud fy ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets a chwarae wrth ochr fy mrawd bach, wedyn mynd ar daith gyda Chymru ac ennill fy nghap cyntaf.

“Dwi am barhau i wthio fy hun i ddatblygu fy ngêm, chwarae yn gyson i’r Scarlets a trial gwthio am fwy o gapiau.

“Dwi’n ffodus iawn fod y clwb yn rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc ac i ni’n teimlo ein bod yn adeiladu ar rywbeth da yma dros y blynyddoedd i ddod. Dysgais lawer wrth y chwaraewyr profiadol sydd yn y garfan am beth mae’n golygu i wisgo crys y Scarlets ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn yr ochr wrth symud ymlaen.”

Wrth edrych yn ôl ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, ychwanegodd Harri: “Daeth fy mreuddwyd yn realiti, roedd hi’n brofiad anhygoel ac yn anodd prosesu popeth ar y pryd. Mae fy nheulu wedi aberthu gymaint er mwyn fy natblygiad a byddaf am byth yn eu dyled.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Roedd hi’n wych i weld HOC yn ennill ei gap cyntaf yn ystod y Chwe Gwlad. O ran ei safle, yn ond 23 oed mae Harri yn dal i ddysgu ei grefft ac maent yn un o nifer o chwaraewyr rheng flaen ifanc a thalentog sydd gyda ni yma.

“Fel y chwaraewyr arall sydd yn barod wedi arwyddo cytundeb newydd, byddant yn rhan fawr o’r clwb wrth symud ymlaen. Rydym yn barod yn ailadeiladu ein carfan ac yn gyffrous am y chwaraewyr fel HOC sydd gyda chymaint o botensial ar y lefel yma.”

Mae’r Scarlets yn barod wedi cyhoeddi cytundebau newydd i Tom Rogers, Dan Davis a Ben Williams, wrth i fachwr Toyota Cheetahs Marnus van der Merwe arwyddo cytundeb o flaen tymor 2024-25. Bydd cyhoeddiadau pellach am gytundebau yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i ddod.

Hoffir y Scarlets ddiolch i Graham Gilhooley am ei gefnogaeth barhaus trwy noddi Harri.