Cytundeb newydd i Sam Lousi

Gwenan Featured, Newyddion

Mae’r Scarlets yn hapus iawn i gyhoeddi mae clo rhyngwladol Tonga Sam Lousi wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Mae’r chwaraewr 32 oed wedi sefydlu ei hun fel ffigwr allweddol yng ngharfan y Scarlets ers iddo gyrraedd Llanelli o’r Hurricanes yn 2019.

Yn weithredwr athletaidd gyda gêm ddadlwytho wych, mae Sam wedi’i ethol yn chwaraewr y tymor i’r Scarlets am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ymddangosodd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Siapan a Ffrainc yn cynrychioli Tonga, wedi chwarae rygbi’r gynghrair i’r ochr NRL y New Zealand Warriors a Super Rugby yn Awstralia i’r Waratahs cyn ei gyfnod yn Wellington.

Cyhoeddodd y Scarlets cytundeb newydd Sam yn ystod digwyddiad i gefnogwyr ym Mharc y Scarlets ar nos Fawrth gyda’r prif hyfforddwr Dwayne Peel yn canmol y newyddion fel hwb enfawr i’r garfan ar gyfer y tymhorau i ddod.

Dywedodd: “Mae’n newyddion gwych i glywed bod Sam wedi arwyddo cytundeb newydd. Yn ffigwr allweddol i ni, chwaraewr ail reng ryngwladol gyda llawer o brofiad sy’n arwain trwy esiampl.

“O’n sgyrsiau gyda Sam, mae ganddo’r ffydd yn yr hyn rydyn ni’n ei adeiladu a’n huchelgeisiau yma yn y Scarlets. Rydyn ni’n garfan ifanc a gall rhywun o statws Sam yn ein grŵp ond helpu i ddod â’r dalent newydd sydd gennym yn y clwb drwyddo.”

Dywedodd Sam Lousi: Mae fy nheulu a finnau wrth ein bodd i fod yn aros gyda’r Scarlets, rhywle rydym wedi ymgartrefi dros y pum mlynedd diwethaf.

“Mae’r tymor diwethaf wedi profi’n anodd, ond mae gan y clwb ffocws clir ar y dyfodol ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny.

“Mae’r cefnogwyr wedi dangos llawer o gefnogaeth i ni ers i mi gyrraedd yma a gobeithio fe allwn dangos ein gwerthfawrogiad trwy ein perfformiadau dros y gemau sydd ar ôl tymor yma.”

Sam yw’r chwaraewr diweddaraf i gytuno ar gytundeb newydd, yn dilyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru Tom Rogers a Harri O’Connor, yn ogystal â chwaraewyr rheng ôl Ben Williams a Dan Davis. Mae’r Scarlets hefyd wedi cyhoeddi bydd y bachwr Marnus van der Merwe yn ymuno â’r clwb o’r Toyotah Cheetahs, wrth i’r blaenasgellwr Jarrod Taylor gyrraedd o’r Stormers nôl ym mis Ionawr.