Cytundebau newydd i driawd yng nghanol cae

Gwenan Newyddion

Mae tri o olwyr talentog ifanc y Scarlets wedi cytuno ar gytundebau newydd.

Y triawd yng nghanol cae Joe Roberts, Ioan Nicholas ac Eddie James, y tri wedi datblygu trwy Academi’r Scarlets, wedi dewis i barhau eu gyrfaoedd gyda’r clwb.

Mae Roberts wedi serennu’r tymor yma ers dychwelyd o anaf i’w ben-glin yn y flwyddyn newydd. Mae’r chwaraewr 22 oed o Lanelli wedi ymddangos 23 o weithiau ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn y Dreigiau yn 2020, gan sgori ei gais cyntaf yn erbyn Bayonne ym mis Ionawr.

Y chwaraewr o Bontyberem Ioan Nicholas oedd y chwaraewr ifancaf i gynrychioli’r Scarlets pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 17 oed yn ystod gêm gyfeillgar yn erbyn Jersey ym mis Awst 2015, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Pro12 yn erbyn Ulster mis yn hwyrach. Nawr yn 25, mae Ioan wedi chwarae 69 o gemau, gan chwarae ar yr asgell, fel cefnwr ac fel canolwr.

James, 20, ydy’r chwaraewr diweddaraf o Gaerfyrddin i raddio o’r Academi i’r garfan hyn. Wedi’i gapio i Gymru D20, cafodd y canolwr pwerus perfformiad cryf yn ystod ei ymddangosiad URC cyntaf gan sgori gais yn erbyn Caeredin ym mis Chwefror ac fe ddechreuodd yn ei gêm URC gyntaf yn erbyn Glasgow penwythnos diwethaf. Chwaraeodd yn y gemau cyfeillgar y tymor yma yn erbyn Bryste a’r Saraseniaid hefyd.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Joe, Ioan ac Eddie yn dri chwaraewr talentog ifanc sydd wedi datblygu trwy’r system academi yma. Mae Joe wedi rhagori ers dychwelyd o’i anaf o ddiwedd tymor diwethaf; mae Ioan wedi chwarae gyda’r clwb ers amser ond yn parhau i berfformio i ni ble bynnag rydym eisiau iddo, tra bod Eddie yn chwaraewr rydym yn gyffroes iawn amdano ac yn barod wedi dangos ei ddoniau tymor yma.

“Rydym wrth ein bodd eu bod nhw wedi arwyddo cytundebau newydd ac mi fyddan nhw’n rhan fawr o’n cynlluniau wrth symud ymlaen.”

Diolch i noddwyr ein chwaraewyr sef Toptotz Day Nursery (Joe Roberts), LHP Chartered Accountants (Ioan Nicholas) a Jason ac Ann Jones (Eddie James).