Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda estyn ein diolch a’n gwerthfawrogiad i’n partneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr wrth inni gadarnhau ein bwriad i ddadgomisiynu tri o’n Ysbytai Maes Covid-19.
Gall y bwrdd iechyd gadarnhau bod Ysbyty Enfys Scarlets, a leolir ym Mharc Y Scarlets, Llanelli; Ysbyty Enfys Carreg Las, a leolir yn Arberth, Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Plascrug, Aberystwyth, i gyd yn cael eu dychwelyd i’w hen ddefnydd o 31 Mawrth 2021.
Bydd Ysbyty Enfys Selwyn Samuel, yn Llanelli, yn cael eu cadw tan 2022 fel cyfleuster ymchwydd pe bai trydedd ton bosibl o Coronafeirws, tra bydd Canolfan Hamdden Aberteifi cael ei chadw fel cyfleuster Profi, Olrhain a Diogelu a Brechu Torfol.
Fodd bynnag, hoffai’r bwrdd iechyd rybuddio ac atgoffa aelodau o’r cyhoedd bod y pandemig yn parhau i fod yn weithredol, ac ni ddylai pobl dybio bod ein penderfyniadau cynllunio yn arwydd o ddychwelyd i normalrwydd ar unwaith. Yn benodol, rydym yn annog trigolion a chymunedau lleol yn gryf i barhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar bellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a defnyddio gorchudd wyneb i helpu i atal Covid-19 rhag lledaenu.
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’n holl bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Cyngor Tref Llanelli a busnesau preifat fel Parc Y Scarlets a Bluestone, am ddod ynghyd yn gynnar yn y pandemig a’i gwneud yn bosibl i ni gael y cyfleusterau hyn ar gael inni.
“O’r cychwyn cyntaf roedd yn amlwg na allem ragweld y ffordd y byddai’r feirws yn lledaenu ac yn effeithio ar ein poblogaeth leol, ac rydym wedi gwybod y byddai bod yn hyblyg yn ein defnydd o’r cyfleusterau hyn yn allweddol i’r ffordd yr oeddem yn gofalu am gleifion.
“Rydym yn falch ein bod wedi gallu dod â rhai o’n hysbytai maes i ddefnydd i helpu i reoli’r galw yn ystod yr ail don yn benodol, ac ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ba lefel o gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnom i symud ymlaen.
“Yn hynny o beth, gallwn gadarnhau y byddwn yn dychwelyd rhai o’n hysbytai maes at eu defnydd blaenorol, wrth gymryd agwedd bragmatig a gochelgar trwy gadw rhai gwelyau yn ardal Sir Gaerfyrddin pe bai trydedd ton bosibl o’r feirws. Hoffwn yn benodol estyn ein diolch i Gyngor Tref Llanelli am eu cefnogaeth barhaus yn ein defnydd o adeilad Selwyn Samuel a fydd yn caniatáu inni gadw’r sylfaen welyau hon yn y dyfodol agos.
“Mae’r pandemig hwn wedi cael effaith drasig ar fywydau dynol, ac er gwaethaf llwyddiant cyflwyno’r brechlyn yn lleol ac yn genedlaethol, mae’n bell o fod ar ben. Mae’n hanfodol bod ein cymunedau lleol yn parhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar bob agwedd ar gyfyngiadau cloi, pellhau, hylendid a defnyddio gorchuddion wyneb, ac nad yw pobl yn ystyried y penderfyniadau gweithredol yr ydym yn eu cymryd fel bwrdd iechyd yn ysgafn- mae angen i ni i gyd barhau gyda’r ymdrech ar y cyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”