Datganiad: Glenn Delaney

Rob LloydNewyddion

Mae Glenn Delaney yn gadael ei safle fel prif hyfforddwr y Scarlets.

Ymunodd Glenn â’r Scarlets fel hyfforddwr amddiffynnol ar gyfer y tymor 2019-20, gan gymryd drosodd o’r prif hyfforddwr Brad Mooar ar gyfer ymgyrch 2020-21.

Dywedodd: “Rwy’n cyhoeddi heddiw fy mod yn gadael y Scarlets. Mae wedi bod yn bleser i hyfforddi’r clwb arbennig yma. Mae’r tymor yma wedi bod yn gyfnod anodd iawn gan ystyried y pandemig yn ein herio fel staff a chwaraewyr ond maent wedi ymdopi’n rhagorol trwy gydol. Dwi’n gadael y clwb gydag atgofion melys o ddwy flynedd fythgofiadwy yn y Gorllewin.

“Rydym wedi mwynhau sawl achlysur, ac yn gallu mwynhau hynny yng nghwmni’r cefnogwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf. Wnâi ddim anghofio’r gemau Ewropeaidd yn Toulon, Bayonne a Gwyddelod Llundain pan oedd y gefnogaeth o’r cefnogwyr ar y daith yn anhygoel. Roedd ein gêm Cwpan Pencampwyr yn erbyn Caerfaddon tymor yma yn un rwy’n siŵr byse’r cefnogwyr ffyddlon wedi mwynhau’n fawr.

“Mae’r clwb o fewn dwylo da wrth symud ymlaen i mewn i’r tymor newydd a dwi ond yn dymuno’r gorau. Hoffwn ddweud diolch enfawr i’r staff ardderchog a’r chwaraewyr rhagorol sydd yma ac wrth gwrs y cefnogwyr. Dw i wedi mwynhau bob munud yn eich cwmni.

“Rwy’n dymuno’r gorau i chi yn y dyfodol.”

Dywedodd cadeirydd gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Hoffwn ddiolch Glenn am ei ymrwymiad calonnog i’r Scarlets yn ystod ei amser yma ac rydym yn dymuno’r gorau iddo am y dyfodol.

Dai Flanagan bydd wrth y llyw fel prif hyfforddwr interim am weddill ymgyrch Cwpan yr Enfys.