Davies i arwain y Scarlets yn Scotstoun

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Rhyfelwyr Glasgow nos Sadwrn gan obeithio ail greu’r perfformiad, a’r canlyniad, a welwyd yn erbyn Ulster ar Barc y Scarlets penwythnos diwethaf a chadarnhau ein ail safle ymhellach yn Adran B.

Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac yn medru galw ar arbenigedd y chwaraewyr rhyngwladol ar gyfer y gêm yn erbyn arweinwyr Adran A.

Daw’r canolwr profiadol Jonathan Davies i mewn i arwain y tîm yn absenoldeb Ken Owens sydd wedi ei orffwyso ar ôl ymgyrch yr Hydref.

Fe fydd Davies, a fydd yn chwarae ei 148fed gêm i’r rhanbarth, yn arwain tîm cryf i’r cae wrth i’r Scarlets obeithio cadw’r momentwm i fynd wedi’r fuddugoliaeth pwynt bonws nos Wener diwethaf.

Mae’r mewnwr ifanc Kieran Hardy yn cadw ei le yn y tîm cychwynol gyda Rhys Patchell yn dychwelyd i’w bartneri yn yr hanneri. Daw Steff Evans i mewn i’r tri-ôl ochr yn ochr â Tom Prydie a Johnny McNicholl gyda Kieron Fonotia yn dod i mewn i ganol cae gyda’r capten.

Gyda reng flaen rhyngwladol yn Rob Evans, Ryan Elias a Wener Kruger mae’r yna gryfder ym mlaen y pac. Daw Jake Ball i mewn i’r ail reng ochr yn ochr a Steve Cummins. Symud i’r blaenasgell dywyll y mae Will Boyde, mae Uzair Cassiem yn parhau yn safle’r wythwr tra bod Dan Davis yn do di mewn i’r blaenasgell agored.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; Mae gan Glasgow record arbennig adref. Maent yn chwarae gêm agored iawn, mae gyda nhw dîm hyfforddi da iawn a nifer o chwaraewyr rhyngwladol.

“Mae’n addo bod yn gêm llawn cyffro. Mae gyda ni lot o barch tuag atyn nhw ac maent yn gwneud yn dda iawn yn eu hadran. Mae yna her mawr o’n blaenau.”

Tîm y Scarlets i wynebu Glasgow yn Stadiwm Scotstoun, Sadwrn 1af Rhagfyr, cic gyntaf 17:15;

15 Johnny McNicholl, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies ©, 12 Kieron Fonotia, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Kieran Hardy, 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Jake Ball, 5 Steve Cummins, 6 Will Boyde, 7 Dan Davis, 8 Uzair Cassiem

Eilyddion; 16 Dafydd Hughes, 17 Wyn Jones, 18 Simon Gardiner, 19 Lewis Rawlins, 20 Tom Phillips, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Paul Asquith, 23 Clayton Blommetjies