Dathlwn 10 mlynedd o bartneriaeth gyda CK Foodstores fel partneriaid cit yn nhymor 2023/24. Dros y degawd diwethaf mae enw CK’s wedi’i weld ar sawl cit eiconig y Scarlets ac yn nodedig yn ystod y tymor bythgofiadwy pan enillodd y Scarlets teitl y PRO12 yn 2016/17.
Yn ystod ei amser fel partneriaid mae CK Foodstores wedi datblygu i fod yn enw boglogaidd ar draws cymunedau yn Ne Orllewin Cymru gydag dros 30 o siopau dros y rhanbarth. Mae CK’s yn ymfalchio o gefnogi’r gymuned leol trwy werthu cynnyrch lleol. Gweithwyd gyda elusennau lleol gan noddi digwyddiadau yn y gymuned ynghyd â chydweithio gyda Sefydliad Gymunedol y Scarlets i gynnig tocynnau a chymorth i bobl sydd eu hangen.
Dywedodd Pennaeth Masnachol y Scarlets, Garan Evans:
“Rydym wrth ein bodd fydd CK Foodstores yn parhau fel noddwr ar gefn siorts y Scarlets ac fel noddwyr Seddle’r Gorllewin ar gyfer y tymor i ddod.
Mae gennym bartneriaeth arbennig gyda CK Foodstores sydd wedi ymestyn dros y degawd diwethaf. Mae’n anarferol iawn i weld partneriaeth yn parhau am gymaint o amser o fewn y diwydiant yma, ond mae CK’s wedi ein cefnogi trwy gydol yr amseroedd llwyddiannus ac hefyd yr adegau heriol gwynebwyd yn ystod Covid-19.
Mae’n bleser i weithio’n agos gyda CK’s a gweld cymaint mae’r busnes wedi datblygu dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud i’r gymuned yn gredyd i’r busnes.
Edrychwn ymlaen at groesawu Alun a thîm CK’s nôl i Barc y Scarlets ar gyfer y tymor newydd a gweld ein partneriaeth yn datblygu ymhellach.”
Dywedodd Alun Littlejohns, Cyfarwyddwr o Weithrediadau Manwerthu CK Foodstores:
“Mae’n anodd credu wrth i ni edrych at gychwyn y tymor 2023/24 newydd, ein bod wedi cefnogi’r bois am ddegawd gyfan.
Gyda chyfnodau arbennig yn ystod y degawd hynny hefyd, atgofion ffantastig yn y Parc ac rydym wedi bod yna ar gefn y siorts ar gyfer bob gêm.
Dros y degawd, croesawn sawl cwsmer CK’s i’r Parc, yn aml am y tro cyntaf, rydym wedi gweld chwaraewyr yn y siop, yn ogystal â ar ffilm, yn ymarferion, yn taflu crempogau neu hyd yn oed yn cerfio pwmpenni! Ac wrth gwrs ni yw’r ‘Partner Rhanbarthol” swyddogol ar gyfer ein cleis cwstard bydenwog, cynnyrch a oedd yn ffefryn i’r cyhoeddwr stadiwm rydym yn colli’n enfar, Andrew “Tommo” Thomas.
Gobeithiwn fydd ein degfed flwyddyn yn un arall i ddathlu… rydym gyda chi bob cam!”
Hoffwn ddiolch i CK Foodstores am eu cefnogaeth barhaus dros y 10 mlynedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at gydweithio i mewn i’r tymor newydd wrth iddyn nhw barhau i ymddangos ar gefn siorts y Scarlets a noddi Seddle’r Gorllewin.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan CK Foodstores.