Deuawd Scarlets yn ennill eu capiau cyntaf

Rob LloydNewyddion

Talentau lleol Joe Roberts a Kemsley Mathias ydy chwaraewyr diweddaraf y Scarlets i ymuno â’r rhestr rhyngwladol ar ôl gwneud eu ymddangosiadau cyntaf yng Nghyfres yr Haf yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Y canolwr Roberts dechreuodd yn y gêm, gan ddod yn rhif 251 o chwaraewyr y Scarlets i gynrychioli’r clwb ar lwyfan rhyngwladol, wrth i’r prop o Sir Benfro Kemsley Mathias ddod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner.

Roberts yn torri trwy ar y tu fas gyda’r pas ar y tu fewn wnaeth arwain at gais i Gymru trwy’r mewnwr Tomos Williams â Roberts yn ymddangos fel un o’r chwaraewyr i serennu yn ystod y gêm golledig.

Yr asgellwr Tom Rogers a’r chwaraewr rheng ôl Taine Plumtree hefyd yn dechrau i Gymru, wrth i’r mewnwr Gareth Davies ddod oddi’r fainc yn hwyrach yn y gêm.

Gadawodd Plumtree y cae ar ôl anafu ei ysgwydd a fydd yn cael ei asesu wythnos yma.

Yn dilyn y gêm, cyhoeddodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland bydd bachwr y Scarlets Ryan Elias yn disgwyl i fod allan o’r chwarae am bedair wythnos yn dilyn anaf hamstring a gafwyd yng ngêm yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.

Fe ymddangosodd Vaea Fifita yng ngêm cynhesu Cwpan y Byd rhwng Tonga a Canada ar Ddydd Iau wrth ennill o 28-3.