Dim noson tân gwyllt yn y Parc ar gyfer 2020

Rob Lloyd Newyddion

Gall y Scarlets gadarnhau yn anffodus na fydd y strafagansa tân gwyllt blynyddol yn cael ei gynnal eleni.

Mae’r pandemig parhaus Covid-19 a’r cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith yn Llanelli yn golygu ein bod wedi penderfynu canslo’r digwyddiad poblogaidd ar gyfer 2020.

Dywedodd Carrie Gillam, rheolwr cyffredinol lleoliad Scarlets: “Yn anffodus, o ystyried yr hinsawdd bresennol a chyfyngiadau llywodraeth Cymru sydd ar waith ynglŷn â Covid-19, ni fyddwn yn cynnal ein harddangosfa tân gwyllt blynyddol ym Mharc y Scarlets eleni.

“Rydym yn gobeithio bod yn ôl gyda’r digwyddiad yn 2021, gan ddod â pherfformiadau ac adloniant gwych i chi ar beth sydd bob amser yn noson wych yn y Parc.”