Diweddariad anafiadau

Rob LloydNewyddion

Gall Scarlets cadarnhau bydd Joe Roberts a Steff Evans ddim ar gael i chwarae oherwydd anafiadau hirdymor.

Bydd Roberts yn derbyn llawdriniaeth ar ei ben-glin a fydd yn ei gadw allan o’r chwarae tan dymor 2024-25, wrth i Evans derbyn llawdriniaeth ar anaf Achilles a gafwyd yn ystod gêm Benetton.

Bachwr Cymru Ryan Elias fydd ar gael ar gyfer gêm Dydd Sadwrn yn erbyn Glasgow ar ôl gwella o anaf llinyn y gar. Mae Taine Plumtree (ysgwydd) a Jarrod Taylor (llinyn y gar) yn agos at wella ond ni fydd y ddau ar gael ar gyfer y penwythnos.