Diweddariad ar broses tynnu enwau Cwpan Pencampwyr Heineken 2021-22

Rob Lloyd Newyddion

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae’r broses tynnu ewau ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken 2021-22 yn cael ei chynnal yn Lausanne, Y Swisdr ar ddydd Mercher (Gorffennaf 21) am 12:00 (Amser Prydeinig a Gwyddelig).

Bydd y broses yn cael ei ddarlledu ar HeinekenChampionsCup.com ac fydd y 24 clwb sy’n gymwys ar gyfer y tymor nesaf yn ffeindio allan eu gwrthwynebwyr ym mhob pool unwaith i’r ffurfioldebau i orffen.

I sicrhau i’r broses tynnu enwau i ddilyn yr un system a’r tymor diwethaf, bydd y clybiau yn cael eu rhestri i mewn i bedwar haen sydd wedi’u trefnu o ran eu safleoedd, cyn cael eu drefnu i mewn i ddau pool o 12 – Pool A a Pool B. Bydd clybiau o’r un gynghrair sydd yn yr un haen ddim yn cael eu rhoi i mewn i’r un pool.

Bydd y clybiau yn y safle cyntaf a’r ail safle o bob gynghrair yn cael eu rhoi i mewn i Tier 1, clybiau yn safle 3 a 4 yn Tier 2, safle 5 a 6 yn Tier 3, ac y clybiau yn safleoedd 7 a 8 yn Tier 4.

Bydd y clybiau Haen 1 a’r Haen 4 sydd wedi’u tynnu yn yr un pwll, ond nad ydyn nhw yn yr un gynghrair, yn chwarae ei gilydd gartref ac i ffwrdd yn ystod cam y pwll, fel y bydd y clybiau Haen 2 a Haen 3 sydd wedi bod wedi eu tynnu yn yr un pwll, ond nad ydyn nhw yn yr un gynghrair.

Er enghraifft, bydd y enillwyr o Gwpan Pencampwyr Heineken a’r TOP14, Stade Tolousain, yn Tier 1 ac yn cael ei dynnu yn erbyn naill ai Bath Rugby neu Wasps, ac yn erbyn naill ai Rygbi Caerdydd neu Glasgow Warriors o Tier 4.

Bydd Bristol Bears yn Tier 2 naill ai yn cael ei dynnu yn erbyn Scarlets neu’r Gweilch, ac yn erbyn naill ai ASM Clermont Auvergne neu Stade Français Paris o Tier 3

Unwaith i’r broses orffen, bydd y clybiau yn y gwybod eu gwrthwynebwyr pool ac bydd EPCR yn gallu cychwyn ar drefniadau gyda cyhoeddiad o ddyddiadau, lleoliadau ac amseroedd pendant i’w gyhoeddi mor gynted ag sy’n bosib.

Bydd y twrnamaint 2021/22 yn cael ei chwarae ar hyd naw penwythnos gyda pedwar rownd o gemau yn y rownd pool yn cychwyn ym mis Rhagfyr pan fydd Stade Tolousain yn brwydro i gadw ei teitl. Bydd y clybiau yn yr wyth safle uchaf yn gymwys i’r rowndiau ‘knockout’ a fydd yn cael ei gario allan ar hyd 16 Rownd,

Timau gymwysedig Cwpan Pencampwyr Heineken 2021/22 

Gallagher Premiership: 1 Harlequins, 2 Exeter Chiefs, 3 Bristol Bears, 4 Sale Sharks, 5 Northampton Saints, 6 Leicester Tigers, 7 Bath Rugby, 8 Wasps

PRO14: 1 Leinster Rugby, 2 Munster Rugby, 3 Ulster Rugby, 4 Connacht Rugby, 5 Scarlets, 6 Ospreys, 7 Cardiff Rugby, 8 Glasgow Warriors

TOP 14: 1 Stade Toulousain, 2 Stade Rochelais, 3 Racing 92, 4 Union Bordeaux-Bègles, 5 ASM Clermont Auvergne, 6 Stade Français Paris, 7 Castres Olympique, 8 Montpellier Hérault Rugby

Pool Draw tiers

Tier 1: Harlequins, Exeter Chiefs, Leinster Rugby, Munster Rugby, Stade Toulousain, Stade Rochelais
Tier 2: Bristol Bears, Sale Sharks, Ulster Rugby, Connacht Rugby, Racing 92, Union Bordeaux-Bègles
Tier 3: Northampton Saints, Leicester Tigers, Scarlets, Ospreys, ASM Clermont Auvergne, Stade Français Paris
Tier 4: Bath Rugby, Wasps, Cardiff Rugby, Glasgow Warriors, Castres Olympique, Montpellier Hérault Rugby