Cadarnhawyd y clwb bod y chwaraewr rhyngwladol Tom Prydie wedi gadael y Scarlets yn dilyn pedwar tymor yng Ngorllewin Cymru.
Chwaraeodd Tom 40 o gemau yn ystod ei amser yn Llanelli, gan sgori 19 o geisiau, gan gofio’i gais nodweddiadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Toulon ym Mharc y Scarlets yn 2018. Gwnaeth ei berfformiadau yn ystod y flwyddyn honno ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer yr haf.
Ar ôl derbyn anaf i’w droed yn ystod y gêm yn erbyn Connacht ym mis Mawrth mae Tom wedi bod yn derbyn triniaeth ym Mharc y Scarlets.
“Mae Tom wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r garfan dros y pedwar tymor diwethaf ac wedi chwarae rhan enfawr yn ein hymgyrch Ewropeaidd yn 2018,” dywedodd Rheolwr Cyffredinol Rygbi Jon Daniels. “Hoffwn ddiolch iddo am ei ymroddiad i’r Scarlets a dymunwn y gorau iddo ar beth sydd i ddod nesa.”
Mae’r Scarlets hefyd yn cadarnhau bydd y chwaraewr ail reng Lloyd Ashley yn dychwelyd i’r Gweilch yn dilyn ei gyfnod byr ar lôg.
Chwaraeodd Lloyd i’r Scarlets tair o weithiau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gan ddod oddi’r fainc yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton wythnos diwethaf.