Yn dilyn ymddangosiad o’r straen newydd Covid-19 yn Ne Affrica a’r wlad yn cael ei gyhoeddi ar restr goch teithio’r DU, mae’r Scarlets wedi gweithio’n galed i geisio llwyddo trefniadau teithio i’r DU ar gyfer ein chwaraewyr a staff.
Ynghyd â’n cydweithwyr yn Rygbi Caerdydd, roeddem wedi gobeithio hedfan allan o Durban ddydd Gwener – yn dilyn gohiriad ein gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Cell C Sharks a Vodacom Bulls – ond yn anffodus nad ydym wedi llwyddo i gael cliriad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil oherwydd i’r DU ac Undeb Ewropeaidd i gau eu ffiniau.
Mae’r chwaraewyr, hyfforddwyr a staff i gyd yn ddiogel ac yn iach a hoffwn ymestyn diolch i bawb am eu negeseuon caredig dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae pob un chwaraewr ac aelod o staff wedi dychwelyd canlyniad negyddol o brawf PCR ac yn dilyn rheolau llym yng ngwesty’r garfan. Iechyd a lles ein grŵp yw ein blaenoriaeth.
Darperir diweddariadau pellach maes o law