Bydd tocynnau ar gyfer gêm tîm Datblygu’r Scarlets yn erbyn tîm A y Gweilch ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Tachwedd 19 (cg 7yh) ar werth o Ddydd Iau.
Bydd deiliaid tocyn tymor yn gallu dod am ddim ond bydd rhaid hawlio tocyn i ddod i’r gêm gan mai ond y Stand De fydd ar agor.
- Mae RHAID i ddeiliaid tocyn tymor hawlio tocyn i ddod i’r gêm. Ni fydd cardiau tocyn tymor yn cael eu derbyn ar y gât.
- Gallwch hawlio eich tocynnau ar-lein tan 5yh ar Ddydd Mercher Tach 17eg gan ddefnyddio’r ffurflen yma > https://marketing.scarlets.wales/scadevosp
- Ar ôl dyddiad cau y ffurflen ar-lein, gall ddeiliaid tocyn tymor hawlio tocynnau yn y swyddfa docynnau yn unig.
- Gall bob ddeiliad tocyn tymor hawlio un tocyn i bob tocyn tymor sydd gennym. Gallwch brynu seddi ychwanegol os dymunwch.
- Bydd tocynnau ar gael ar gyfer y Stand De yn unig
Mynediad arferol yw £5 i oedolion a £3 i ieunctid ac AM DDIM i blant o dan 6.
Bydd tocynnau ar werth o 12 y prynhawn ar Ddydd Iau.