Os ydych yn mynychu’r gêm gyfeillgar yn erbyn Nottingham ar ddydd Sadwrn, dyma beth sydd angen i chi wybod.
A fydd unrhyw rheolau cadw pellter?
Rydym yn cynghori ein cefnogwyr i ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Covid-19 fel y gall pob unigolyn fwynhau’r gêm mewn amgylchedd diogel. Ni fydd unrhyw rheolau cadw pellter mewn lle, gyda’n holl gefnogwyr yn eistedd yn seddle’r De ym Mharc y Scarlets.
Oes angen gwisgo mwgwd?
Rydym yn annog ein cefnogwyr i wisgo mwgwd tu fewn y concourse. Hoffwn i bawb ddod â fwgwd i’r stadiwm.
Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?
Oes. Mae tocynnau yn costi £10 i oedolion, £5 consesiwn (6-16, plant dan 6 am ddim). Gall deiliaid tocyn tymor hawlio tocyn am ddim, ond bydd rhaid cael tocyn i fynychu’r gêm. Mae’r Swydda Docynnau ar agor o 9yb.
Ydy’r siop ar agor?
Ydy, mae’r siop ar agor o 10yb
Ble allai barcio?
Mae parcio i’r cyhoedd ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Mae’r maes parcio yn costi £5 i bob car.
Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?
Lletygarwch yn agor am 12:30yp, bydd y gatiau i’r cyhoedd yn agor o 1:30yp.
Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor am y gêm yma?
Nad yw Pentref y Cefnogwyr ar agor am y gêm hon.
Oes shuttle bus i’r gêm?
Nac oes
Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?
Ydy, dim ond yn Seddle’r De, mae’r Guinness Bar yn Seddle’r Dwyrain ar gau. Bydd gwasanaeth click & collect ar gael trwy’r linc yma https://goodeats.io/Scarlets-S2
Bydd BBQ, sydd wedi’i drefnu gan Grwp Cefnogwyr y Scarlets, yn cael ei gynnal yn dilyn y chwiban olaf ym maes parcio’r East Stand.
Pa seddle fydd ar agor?
Byddwn ond yn agor y South Stand ar gyfer y gêm hon.