“Does dim ffordd gwell na darbi i symud ymlaen,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn troi sylw yn ôl at y Guinness PRO14 penwythnos yma wrth wynebu’r Gweilch yn Stadiwm Liberty.

Fe fydd y rhanbarth yn obeithiol o fwynhau gwell canlyniad wrth ddychwelyd i’r bencampwriaeth ar ôl siom yn rowndiau agoriadol y Cwpan Pencampwyr ac mae’r prif hyffordddwr Wayne Pivac wedi dweud ‘nad oes ffordd gwell na darbi i symud ymlaen’.

Wrth edrych ymlaen at y gemau darbi dros yr wyl dywedodd Pivac; “Y PRO14 yw’r ffocws nawr, redden ni’n amlwg eisiau perfformio’n well yn Ewrop ond wnaethon ni ddim, dyna’r realiti ac mae’n rhaid i ni symud ymlaen.

“Ry’n ni’n awr â’n ffocws ar y Gweilch, Gleision Caerdydd a’r Dreigiau. Mae’n rhaid i ni berfformio’n dda yn y gemau yna a rhoi ein hunain yn yr un sefyllfa a tymor diwethaf i gyrraedd y rowndiau ail gyfle.”

Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth dros y Gweilch ym Mharc y Scarlets nôl ym mis Hydref ac fe fydd y tîm yn gobeithio sicrhau’r dwbwl dros y cymdogion agosaf dros y penwythnos.

Aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Ychydig o bwyntiau sydd wedi bod rhyngom ni dros y blynyddoedd diwethaf. Ry’n ni gyd yn gyffrous am y cyfle.

“Dyma beth mae’r bois yn ei fwynhau. Mynd wyneb yn wyneb yn erbyn y goreuon yng Nghymru. Ry’n ni wedi bod yn lwcus dros y blynyddoedd diwethaf if od ar ochr iawn y canlyniadau.

“Dyw’r canlyniadau yna ddim wedi bod yn hawdd, roedd yn rhaid i ni weithio’n galed. Dy’n ni ddim yn disgwyl dim byd gwahanol eleni, ry’n ni’n disgwyl her hyd yn oed yn fwy.”

Fe fydd y Scarlets yn ôl ym Mharc y Scarlets i wynebu Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn 29ain Rhagfyr, cic gyntaf 17:15.

.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales