Mae’r Scarlets yn hynod o falch i groesawu Hufenfa De Arfon, cynhyrchwyr caws a menyn Dragon, nwyddau Cymreig o’r safon uchaf i’n teulu masnachol.
Wedi’i leoli ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru, mae Hufenfa De Arfon (HDA) wedi’i chydnabod fel Cwmni Cydweithredol llwyddiannus gyda 145 o ffermydd â rhai ohonynt wedi cyflenwi llaeth am genedlaethau. Mae HDA yn ymfalchïo yn ei pherthynas agos gyda’i ffermwyr, gyda bob un ohonynt yn ‘Red Tractor Assured’, maent i gyd yn gweithio i warchod golygfeydd a natur odidog cefn gwlad Cymru.
Dywedodd Rheolwr Marchnata Dragon Kirstie Jones: “Edrychwn ymlaen at ymuno â theulu’r Scarlets gan godi proffil ein brand yn Ne Cymru. Mae’r Scarlets yn weithgar iawn yn eu cymuned, ac ni allwn aros i fod yn rhan o hynny!”
Yn ogystal â lletygarwch ar ddiwrnod gêm, bydd Dragon ar gael ym Mhentre’r Cefnogwyr cyn ac ar ôl gemau, gan ddarparu caws a menyn Cymreig i’r stadiwm, gan gynnwys ei nwyddau nodedig sef Caws Cymreig o Geudwll Llechen, Caws Halen Môn a’i Gaws o Geudwll a Wisgi Penderyn. Gallwch weld hysbysebiad y cwmni o amgylch Parc y Scarlets a thu fewn ein rhaglen diwrnod gêm.
Dywedodd Pennaeth Masnachol y Scarlets James Bibby: “Mae’n hyfryd i groesawu partneriaid masnachol newydd i’r Scarlets ac rydym wrth ein bodd i weld Dragon yn ymuno’r teulu’r tymor yma. Fe wnaethon ni gwrdd â’r tîm yng Ngogledd Cymru yn ystod ein gwersyll ym mis Awst ac roedd yn amlwg o’r cychwyn ein bod yn rhannu’r un weledigaeth a gwerthoedd cymunedol.
“Roedd ein noson caws a gwin yn llwyddiannus iawn gyda’n partneriaid a hyfforddwyr ac edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol a chroesawu HDA i glwb busnes Parc y Scarlets yn ystod y tymor.”
Am fwy o wybodaeth am Dragon ewch i www.dragonwales.co.uk