“Dwi wrth fy modd ac yn edrych ymlaen at gamu ymlaen i’r cae”

Rob Lloyd Newyddion

Mae Tom Rogers methu aros i rhedeg allan i gae y Principality ar ddydd Sadwrn ar ôl cael gwybod fydd yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Canada.

Mae’r chwaraewr 22 oed wedi’i enwi ymysg pum chwaraewr di-gap yn nhîm Wayne Pivac i wynebu Canada yng Nghaerdydd, gan orffen tymor anhygoel gyda’r Scarlets.

“Dwi wrth fy modd ac yn edrych ymlaen at gamu ymlaen i’r cae,” dywedodd Rogers. “Ro’n i ddim yn ei ddisgwyl i fod yn onest achos mae llawer o gystadleuaeth yma. Mae wedi bod yn gyfnod dwys iawn ac dwi wedi dysgu llawer wrth y chwaraewyr eraill dros y dyddiau diwethaf.”

Mae Rogers wedi mwynhau ymgyrch anhygoel gyda’r Scarlets trwy sgori cais unigol penigamp yn erbyn Connacht i gynorthwyo sicrhau ein safle yng Nghwpan Pencampwyr y tymor nesaf.

Fe lwyddodd i wneud y mwyaf o’i amser yn ystod y cyfnod clo trwy adeiladu gym ei hun yn ei gartref.

Ers hynny mae Tom wedi gwella bob cam ac wedi symud ymlaen i dîm Cymru.

“Credais ei fod yn gyfle da i weithio ar fy hun. Ro’n i ddim eisiau eistedd yn ty yn gwneud dim byd,” dywedodd Rogers am ei gyfnod clo.

“Ffoniais fy mam a dad pan glywais fy mod wedi cael fy nghynnwys yn y garfan. Roedd y ddau wrth eu bodd ac yn llefain. Mae’r ddau wedi fy nghefnogi o’r dechrau ac yn emosiynol iawn.

“Mae’r ddau wedi rhoi popeth dwi wedi ei angen. Nhw fydd rhai o’r cyntaf i gyrraedd y stadiwm ar y penwythnos rwy’n siwr.”

Bydd gêm dydd Sadwrn yn erbyn Canada y cyntaf i’r stadiwm ei gynnal ers pencampwriaeth Chwe Gwlad yn 2020 yn erbyn Ffrainc.

Bydd 8,200 o gefnogwyr yna yng nghartref rygbi Cymru.

“Bydd hi’n grêt i glywed y swn o’r cefnogwyr,” dywedodd Tom.

“Mae bws o fy ffrindiau yn dod i fyny o Gefnithin i wylio’r gêm felly bu nhw’n creu digon o swn.”

Rogers ydy’r chwaraewr cyntaf o Gefnithin ers Barry John yn 1966 i ennill cap i Gymru.

“Fe wnai drial i ymlacio a mwynhau bob munud ar y cae,” dywedodd Rogers.

“Mae chwarae i Gymru wedi bod yn uchelgais ers i mi fod yn blentyn, ond wnes i byth dychmygu byse hynny’n dod mor gloi. Mae’n anrhydedd enfawr.”