Dydd y Farn yn dychwelyd yn 2023

GwenanNewyddion

Bydd Dydd y Farn yn dychwelyd i Stadiwm Principality ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 22, 2023, gyda’r Scarlets yn herio’r Dreigiau yn y gêm agoriadol o’r diwnrod sy’n cychwyn am 3yp (BBC Wales).

Bydd y Gweilch wedyn yn gwynebu Rygbi Caerdydd (5:15yp S4C) gyda’r diwrnod yn addo llawer o adloniant yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Gyda’r digwyddiad yn dychwelyd i’r brifddinas am y tro cyntaf ers 2019 pan ddaeth dorf o dros 50,000, bydd prisiau tocynnau yn cychwyn am £10.

Bydd tocynnau i blant o dan 16 yn cychywn am £10, ac am y tro cyntaf bydd tocynnau dros 65 oed ar gael ac yn dechrau o £15. Gyfa thocynnau i oedolion wedi’i brisio o £25, fe all deulu o bedwar fwynhau’r diwrnod o gemau am ond £70.

Mae pob aelod tymor yn gallu prynnu eu tocynnau o Ddydd Llun, Tachwedd 14, gyda tocynnau ar gael i’r cyhoedd ar Ragfyr 14 – o fewn amser i’r Nadolig. Bydd tocynnau i’r timau ‘cartref’ (Gweilch a’r Dreigiau) yn derbyn tocyn am ddim fel rhan o’u pecynnau tymor, ond mae’r opsiwn ar gael i brynu tocynnau ychwanegol.

Mae’r frwydr ar gyfer Tarian Cymraeg URC a chymhwyster i Gwpan Pencampwyr Ewrop yn cyrraedd crescendo ar Ddydd y Farn.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’n wych i gael Dydd y Farn nôl fel rhan o galendr Rygbi Cymru. Cawsom sawl gêm gyda nifer o cheisiau yn erbyn y Dreigiau tymor diwethaf â sawl gwyneb cyfarwydd yn y garfan, rydym i gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod.

“Mae Stadiwm y Principality yn leoliad anhygoel ac i sawl un o’n chwaraewyr dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw i chwarae yna. Mae’n addo i fod yn ddiwrnod cyffroes iawn gyda diweddglo da i’r tymor.”

Dywedodd Dai Flanagan, prif hyfforddwr y Dreigiau: “Newyddion da i weld bod Dydd y Farn yn dychwelyd i’r brifddinas. Mae’n ddiwrnod sbesial i gefnogwyr ar draws Cymru ac yn rhoi’r cyfle i orffen y tymor ar nodyn da. Dyma gyfle i chwarae yn Stadiwm Principality ac mae hynny’n rhywbeth mae pob chwaraewr yn edrych ymlaen at wrth i ni wynebu’r Scarlets a chreu diwrnod bythgofiadwy i’r cefnogwyr i fwynhau yng Nghaerdydd.”

Dywedodd Martin Anayi, CEO y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: “Rydym wrth ein bodd i weld dychweliad Dydd y Farn i’r calendr. 10 mlynedd yn ôl cafodd yr ymgyrch ei gyflwyno am y tro cyntaf ac mae’n ffordd wych i ddangos rygbi rhanbarthol i grwp mwy eang o gefnogwyr.”

Dywedodd CEO Undeb Rygbi Cymru Steve Phillips: “Gyda llawer o gyffro rydym yn croesawu Dydd y Farn yn ôl i Stadiwm Principality, achlysur flynyddol sydd yn dathlu’r gorau am rygbi proffesiynol Cymru.”

Bydd y tocynnau yn cynnwys mynediad i’r ddau gêm. Fe all deiliaid tocyn tymor prynu yn uniongyrchol trwy’r clwb ac fe all y cyhoedd eu prynu trwy WRU.WALES/TICKETS  

Pecynnau lletygarwch Stadiwm Principality ar gael yn fuan. Am fwy o wybodaeth ewch i: WRU.WALES/VIP

Prisiau Tocynnau

Cat A

  • Full: Onsale Price £35, Event Day £40
  • OAP Concession (Over 65): Onsale Price £25, Event Day £30
  • U16 Concession: Onsale £15, Event Day £20

Cat B

  • Full: Onsale Price £25, Event Day £30
  • OAP Concession (Over 65): Onsale Price £15, Event Day £20
  • U16 Concession: Onsale £10, Event Day £15