Mae dyddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y gêm URC Scarlets yn erbyn y Dreigiau wedi’i aildrefnu ym Mharc y Scarlets.
Cafodd y gêm rownd 10 ei ohirio ym mis Ionawr oherwydd Covid-19, ac wedi’i aildrefnu am Ddydd Sadwrn, Ebrill 16 (yn fyw ar S4C) gyda’r gic gyntaf am 7:35yh.
Cafodd gemau’r Dreigiau yn erbyn y Gweilch a Chaerdydd eu haildrefnu hefyd.
Dywedodd datganiad gan URC: “ Bydd tair gêm sy’n cynnwys y pedwar tîm yn cael eu chwarae rhwng Ebrill a Mai yng nghytûn rhwng darlledwyr a’r timau. Cafodd pob ymdrech i’w wneud i aildrefnu’r gemau yma tu allan i galendr y Chwe Gwlad.
Gemau wedi’u haildrefnu
R10 – Dydd Sadwrn, Ebrill 16
Scarlets v Dreigiau: CG 19:35 UK ym Mharc y Scarlets, Llanelli
Yn fyw ar S4C, Premier Sports, SuperSport & URC.tv
R8 – Dydd Sul, Mai 8
Gweilch v Dreigiau: CG 15:00 UK yn Swansea.com Stadium, Abertawe
Yn fyw ar Premier Sports, SuperSport & URC.tv
R9 – Dydd Gwener, Mai 13
Dreigiau v Caerdydd: CG 19:35 UK yn Rodney Parade, Casnewydd
Yn fyw ar BBC Wales, Premier Sports, SuperSport & URC.tv
Hoffir URC ymestyn diolch i’r holl clybiau a darlledwyr am helpu aildrefnu’r gemau yma.