Dyfarnwyd Kieran Hardy chwaraewr y mis Intersport ar gyfer mis Hydref

Kieran Lewis Newyddion

Y mewnwr Kieran Hardy yw enillydd cyntaf ein gwobr chwaraewr y mis Intersport.

Enillodd y chwaraewr 24 oed y clod ym mis Hydref ar ôl derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau (38%) drwy arolwg cyhoeddus, gan wthio allan Rhif 8 Uzair Cassiem, y blaenasgellwr Josh Macleod a’r canolwr Steff Hughes.

Mae Kieran wedi codi lle y gadawodd y tymor diwethaf, gan oleuo a serennu yn y rowndiau cynnar y Guinness PRO14 gyda rhai ceisiau rhagorol.

Hawliodd bwyntiau a newidiodd y gêm yn y fuddugoliaeth wefreiddiol i fyny yng Nglasgow, hawliodd cais ddwbl yn yr ornest yn erbyn Zebre ym Mharc y Scarlets ac yn olaf ychwanegodd gais arall, gan gipio ochr ddall ym muddugoliaeth dydd Sadwrn dros y Toyota Cheetahs adref yn y Parc.