Hoffech chi ymuno â’r Scarlets a miloedd o gefnogwyr yn Nulyn penwythnos nesaf ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop? Mae gyda ni’r ateb i chi!
Ry’n ni’n falch iawn rhoi’r cynnig i chi ennill profiad arbennig, mewn cydweithrediad a Stena Line.
Mae’r wobr yn cynnwys;
- Trafnidiaeth fferi: tocyn car a 2 berson ar gwch Stena Line o Abergwaun i Rosslare ac yn ôl
- Llety: 2 noson mewn gwesty yng nghanol Dulyn
- Tocyn gêm: 2 docyn i Leinster v Scarlets yn Stadiwm Aviva, Dulyn
I gael cyfle i ennill;
- Hoffwch y llun ar ein tudalennau cymdeithasol
- Tagiwch y person yr hoffech fynd gyda chi
- Rhannwch eich hoff brofiad Cwpan Pencampwyr Ewrop y Scarlets y tymor hwn
Fe fyddwn yn dewis ac yn cysylltu â’r enillydd dydd Sul 15fed Ebrill.
Termau ac amodau yn berthnasol