Mae’r Scarlets yn falch i gyhoeddi arwyddiad y cefnwr ifanc cyffrous sy’n gymwys i chwarae i Gymru Ioan Jones o Gaerloyw.
Yn enillydd Cwpan y Byd D20 gyda Lloegr, mae Ioan yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei dad sydd yn wreiddiol o Gaerdydd.
Mae’r chwaraewr 20 oed wedi bod yn rhan o Academi Caerloyw ers yn 14 oed ac wedi chwarae naw gêm i’r carfan hyn y tymor hwn, gan gynnwys cwpl o ymddangosiadau yn y Gyngrhair Gallagher a’i ymddangosiad Ewropeaidd cyntaf yn y Cwpan Her. Mae Ioan hefyd wedi chwarae i Hartpury yn y Gyngrhair Saesneg.
Fel rhan o Academi Hyn y Scarlets, bydd Ioan yn ymuno â’r garfan ar gyfer ymarferion yr haf.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Ioan i’r Parc ac mae’n braf i gael chwaraewr arall sy’n gymwys i chwarae i Gymru yn ymrwymo i’r gêm yng Nghymru.
“Mae Ioan yn chwaraewr ymosodol cyffrous sydd wedi serennu ar lefel D20 ac yn barod wedi magu profiad gyda Chaerloyw yn y Cwpan Her a’r Gyngrhair. Mi fydd yn ychwanegu at y grwp o olwyr cryf sydd gyda ni yma.”
Dywedodd prif hyfforddwr Academi’r Scarlets Scott Sneddon: “Mae Ioan yn chwaraewr llawn talent gyda’r hanfodion cywir. Yn rhedwr peryglus, gyda sgiliau arbennig ac yn fydgythiad yn yr awyr. Roedd yn rhan o dîm buddugol D20 Lloegr ac roedd yn fygythiad mawr yn yr ochr a wnaeth ennill Cwpan y Byd yn Ne Affrica a’r Chwe gwlad llynedd.”
Dywedodd Ioan: “Dwi wrth fy modd i ymuno â’r Scarlets a chael y cyfle i chwarae ym Mharc y Scarlets. Mae gan y Scarlets hanes balch a chefnogwyr brwd a dwi’n edrych ymlaen at gychwyn ar ddechrau’r tymor nesaf.”
Ychwanegodd: “Mae cael chwarae o dan Dwayne Peel yn gyfle cyffrous hefyd gan mai ef sydd wedi fy mherswadio mai dyma’r clwb i wella fy ngêm. I gael cerdded yr un llwybr a sawl arwr fel Jonathan Davies, Stephen Jones, Phil Bennett, yn deimlad arennig.
“Mae’r Scarlets yn dîm ifanc a deinameg ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn rhan o’r grwp. Dwi methu aros i wisgo crys y Scarlets a rhoi fy ngorau glas i helpu’r tîm i lwyddo.”
Ioan yw’r pedwerydd chwaraewr newydd a fydd yn ymuno â ni am dymor 2025-26 yn dilyn Joe Hawkins, Jake Ball a Dane Blacker.
Mae Macs Page, Tomi Lewis, Joe Roberts, Eddie James, Taine Plumtree, Kemsley Mathias a Sam Costelow hefyd wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb.
Bydd mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf.