Enwyd y canolwr Jonathan Davies yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn mewn noson wobrwyo nos Lun.
Cornowyd Davies Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn mewn seremoni arbennig yng Ngwesty Celtic Manor ar ôl blwyddyn lwyddiannus gan gynnwys bod yn aelod o garfan buddugol y Scarlets a gododd tlws Guinness PRO12 ym mis Mai.
Yn dilyn llwyddiant gyda’r Scarlets aeth y canolwr ar daith y Llewod i Seland Newydd ac enwyd ef yn Chwaraewr y Gyfres ar ôl perfformiadau trawiadol.
Casglwyd y wobr gan Mike a Julie Davies, rieni Jonathan, wrth iddo ef ddod dros ei lawdriniaeth ar ôl anaf yn y gêm gyntaf i Gymru yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia.