Mewnwr y Llewod Gareth Davies fydd yn gapten ar dîm y Scarlets yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Benetton Rugby yn Treviso ar nos Sadwrn (19:35 amser DU)
Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi enwi carfan gyda llawer o brofiad rhyngwladol wedi’i chyfuno gyda thalent ifanc a chyffrous.
Ymysg yr olwyr, chwaraewyr newydd y Scarlets Ellis Mee a Blair Murray fydd yn cychwyn am eu hymddangosiadau cyntaf yn y bencampwriaeth ar y naill asgell. Tom Rogers sydd i gychwyn yng nghrys rhif 15.
Macs Page, a wnaeth serennu yn ystod y gemau cyfeillgar ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd D20 dros yr haf, fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth ac yn cychwyn yng nghanol cae gydag Ioan Lloyd. Nid yw Eddie James ar gael oherwydd cyfergyd.
Sam Costelow sydd wedi’i enwi fel maswr, ac yn cydweithio gyda’r capten Davies fel haneri.
Yn y rheng flaen, Marnus van der Merwe yw’r chwaraewr arall a fydd yn cychwyn yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, gyda Kemsley Mathias a Sam Wainwright wrth ei ochr.
Alex Craig fydd yn bartner i Max Douglas – hefyd yn cychwyn am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth – yn yr ail reng, gyda Taine Plumtree, Jarrod Taylor a Vaea Fifita yn cwblhau’r rheng ôl.
Mae’r bachwr rhyngwladol Ryan Elias wedi gwella o salwch i gymryd ei le ar y fainc.
Ymysg yr eilyddion mae’r propiau ifanc Sam O’Connor a Gabe Hawley – a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf os yw’n dod ymlaen i’r cae. Ymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi unedig hefyd i Jac Davies oddi’r fainc.
Canolwr Cymru Johnny Williams sydd wedi gwella o anaf i’w droed er mwyn cael ei enwi yn y 23.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae’n bwysig i ni gychwyn y bloc cyntaf yma’n dda. Bydd cychwyn yn Treviso yn anodd yn erbyn tîm ymosodol sydd gyda llawer o dalent yn y grŵp, ond rydym wedi paratoi’n dda ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein perfformiad, yn enwedig y bois ifanc fel Macs Page ac Ellis Mee, sydd wedi dangos eu doniau dros yr haf. Roedd llawer o agweddau positif i weld yn erbyn y Saraseniaid, gydag a heb y bel, a gobeithio fe gariwn ni’r agweddau yna i mewn i gêm Dydd Sadwrn.”
Tîm y Scarlets i chwarae Benetton ar Ddydd Sadwrn, Medi 21 (7.35pm amser DU)
15 Tom Rogers; 14 Ellis Mee, 13 Macs Page, 12 Ioan Lloyd, 11 Blair Murray; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies (capt); 1 Kemsley Mathias, 2 Marnus van der Merwe, 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig, 5 Max Douglas, 6 Taine Plumtree, 7 Jarrod Taylor, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Ryan Elias. 17 Sam O’Connor, 18 Gabe Hawley, 19 Jac Price, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Efan Jones, 22 Johnny Williiams, 23 Jac Davies.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tomi Lewis, Joe Roberts, Steff Evans, Harri O’Connor, Josh Macleod, Alec Hepburn, Henry Thomas, Shaun Evans, Sam Lousi, Dan Davis, Archie Hughes, Eddie James, Ioan Nicholas.