Gareth Davies yn ennill pleidlais chwaraewr y mis am fis Rhagfyr

GwenanNewyddion

Gareth Davies yw Chwaraewr Cefnogwyr y Scarlets am fis Rhagfyr.

Y mewnwr, a serenodd trwy groesi am ddwy gais yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Caerdydd a bachu un arall yn erbyn y Gweilch, cipiodd 30% o’r bleidlais, gan guro Ioan Lloyd (27%) ac Eddie James (21%).

Y chwaraewr rhyngwladol i Gymru yw ail enillydd y bleidlais, gan ddilyn Teddy Leatherbarrow a wnaeth ennill y wobr am fis Tachwedd.

Llongyfarchiadau i Anwen Evans sydd wedi ennill pedwar tocyn i’r gêm Cwpan Her yn erbyn Caeredin ym Mharc y Scarlets ar Ionawr 19.