Gemau EPCR wedi’i gohirio

Rob Lloyd Newyddion

Ni fydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn RC Toulon a Chaerfaddon mis yma ar ôl i reolwyr Cwpan y Pencampwyr cyhoeddi bod y twrnamaint wedi’i gohirio.

Roedd y Scarlets wedi trefnu i deithio i Dde Ffrainc ar gyfer gem rownd tri ar ddydd Gwener, a chwarae gêm gartref ar y 23ain o Ionawr yn erbyn Caerfaddon i orffen y rowndiau grŵp.

Dyma’r datganiad cyhoeddwyd gan EPCR.

“Yn dilyn cyngor gan yr awdurdodau Ffrengig bod cyfranogiad y 14 clwb ‘TOP’ yng Nghwpan y Pencampwyr a Chwpan Her yn ormod o risg i iechyd y cyhoedd a chwaraewyr, mae gan EPCR dyletswydd i gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, 11 Ionawr) bod twrnamaint 2020/21 wedi’i gohirio.

“Roedd EPCR a’r Ligue Nationale de Rugby wedi cymryd rhan mewn cyfarfod dros ffon gyda chynrychiolwyr adrannau’r gweinidogaethau Ffrengig megis Iechyd a Chwaraeon, a swyddfa’r Arlywydd.

“Roedd bob diweddariad o brotocolau COVID-19 EPCR wedi’i chyflwyno i’r awdurdodau Ffrengig, yn cynnwys profion PCR sy’n cael eu cynnal dim mwy na tri diwrnod cyn gem yn y bencampwriaeth, cydymffurfio a rheolau’r llywodraeth Ffrengig a sicrhau bod olrhain profion yn llwyddo er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r firws.

“Mae canfod y straen newydd o’r coronafeirws wedi achosi i lywodraeth Ffrainc i ailfeddwl os ddylai clybiau Ffrengig gymryd rhan mewn gemau ac felly wedi cynghori’r clybiau i ohirio eu cyfranogiad mewn gemau EPCR am fis Ionawr am gemau sydd wedi’u threfnu i chwarae yn Ffrainc, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

“Oherwydd hyn, mae EPCR wedi gorfod gohirio rowndiau pool Cwpan y Pencampwyr Heineken a rowndiau rhagarweiniol y Cwpan Her.

“Gan barchu cyngor y llywodraethau a chynghorau lleol, a blaenoriaethu iechyd a diogelwch y chwaraewyr a gweithwyr, mae EPCR yn parhau i weithio at ddatrys y broblem er mwyn galluogi i’r twrnamaint ailddechrau mor gynted ag sy’n ymarferol.

“Ni fydd EPCR yn rhyddhau unrhyw sylwadau pellach ar hyn y bryd.”