Gemau olaf wedi ryddhau ar gyfer y Guinness PRO 14

Menna Isaac Newyddion

Yn gynharach heddiw, rhyddhawyd y gemau ar gyfer y 4 rownd olaf o’r Guinness PRO 14. Bydd y Scarlets yn parhau â’u taith PRO 14 gyda’r pedair rownd olaf a fydd yn pennu eu tynged am gamau olaf y gystadleuaeth. Mae rhain wedi’u rhyddhau ddau fis yn gynharach, nag erioed o’r blaen!

Esboniodd Cyfarwyddwr y Gystadleuaeth PRO 14, David Jordan; “Rydyn ni’n falch iawn o gael yr holl bethau a gadarnhawyd ar hyn o bryd, sydd ymhell o flaen y tymhorau blaenorol ac mae llawer o ddiolch i’n partneriaid darlledu ar gyfer cyflawni hyn.”

“Mae gosod ein gemau yn gymhleth iawn o achos natur y teithio ar draws pum gwlad”

“Mae cwblhau’r broses llawer cynharach yn caniatáu i glybiau drefnu eu logisteg yn well ac mae’n caniatáu mwy o amser i gefnogwyr gynllunio eu penwythnosau pan fydd cymaint yn y fantol i’w timau.”

Bydd y Scarlets yn dod yn ymwelwyr ym Mharc Arfau Caerdydd nos Wener, 23ain o Fawrth gyda amser cychwyn o 19:35. Yna byddant yn croesawi am y ddwy rownd arall, gan ddechrau gyda Rygbi Caeredin ddydd Sadwrn 6ed o Ebrill am 18:45 wedyn, gan groesawu Clwb Rygbi Zebre ar ddydd Sadwrn 13eg o Ebrill ar 17:15.

Bydd Wayne Pivac yn paratoi’r bechgyn am eu rownd diwethaf wrth iddynt fynd yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn 27ain o Ebrill yn ei gartref rygbi nesaf, Stadiwm y Principality lle bydd Diwrnod Y Farn blynyddol yn cymryd lle. Er bod y Scarlets yn chwarae’r Dreigiau, bydd y Gweilch yn gwynebu Gleision Caerdydd.

I gael yr holl wybodaeth am y gemau hyn yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’n gwefan;

https://www.eticketing.co.uk/scarletsrugby/

Gemau PRO 14 sydd i ddod:

Rownd 18 – Gleision Caerdydd, Parc Arfau Caerdydd GC 19:35

Rownd 19 – Rygbi Caeredin, PYS GC 18:45

Rownd 20 – Zebre Rugby, PYS GC 17:15

Rownd 21 – Dreigiau, Stadiwm y Principality (Dydd Y Farn) GC 15:00

Bydd tocynnau ar gyfer holl gemau cartref y Scarlets ar werth o ddydd Llun, Ionawr 21ain am 10yb;

https://www.eticketing.co.uk/scarletsrugby/

Swyddfa Docynnau: 01554 292939

Swyddfa Docynnau Agored Dydd Llun – Dydd Gwener 9yb tan 5yh