Genedigaeth ei blentyn a galwad i fyny i garfan yr Alban i Javan!

Rob Lloyd Newyddion

Mae prop y Scarlets Javan Sebastian ar drywydd i wneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn ystod gêm yr Alban yn erbyn Japan yn BT Murrayfield ar Ddydd Sadwrn.

Mae’r prop pen tynn 27 oed wedi’i gynnwys yn y 23 am y tro cyntaf, ac wedi’i enwi ymysg dau blaenwr di-gap ar y fainc.

Mae Javan yn gymwys i chwarae i’r Alban trwy ei dad, sydd yn wreiddiol o Gaeredin.

Mae’r galwad yn rhan o wythnos pwysig i’r chwaraewr o Gaerfyrddin, wrth iddo groesawu babi newydd i’w deulu ar Ddydd Mercher.