Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Glenn Delaney wedi siarad â’r wasg cyn i’r tîm wynebu Caerfaddon ar y penwythnos.
Dyma beth oedd ganddo i ddweud.
Sut ydych chi wedi paratoi yn dilyn yr holl aflonyddwch gyda Covid?
GD: “Rydym wedi gwneud cymaint ag y gallwn. Roedd tua 20 o chwaraewyr i mewn ar ddechrau’r wythnos. Mae’r bois a oedd i ffwrdd gyda’r tîm rhyngwladol nol yn y garfan nawr, ac rydym wedi gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n iawn ar ôl chwarae yn y bencampwriaeth. Bydd y mwyafrif o’r bois nol mewn ar ddydd Iau ar ôl dilyn canllawiau’r llywodraeth. Mae’r cyfarfodydd tîm wedi bod bach yn wahanol wythnos yma, ond mae pawb wedi gallu ymuno gyda diolch i dechnoleg fodern! Mae wedi bod yn flwyddyn swreal i bawb, ond roedd ein tro ni wedi cyrraedd o ran Covid. Er iddi fod yn annisgwyl, rydym yn gwneud y gorau o’r sefyllfa ac yn edrych ymlaen at Ddydd Sadwrn.”
Beth ydy’r diweddaraf o ran anafiadau?
GD: “Ni fydd Johnny Williams, Cubby (James Davies) a Rhys Patchell yn barod erbyn wythnos yma, ond fyddwn yn cadw llygaid arnyn nhw a’u hasesu nhw’n gyson. Mae Josh Macleod a Johnny McNicholl nol yn ymarfer. O ran chwaraewyr rhyngwladol, rydym wedi bod yn adeiladu carfan fydd yn gallu ymdopi gyda nifer o’r bois i ffwrdd gyda Chymru. Ein cryfder ar hyn o bryd yw gallu defnyddio’r bois ifanc yn ein carfan i roi cyfleoedd iddyn nhw a gwella eu datblygiad. Fe edrychwn ar bawb yn unigol, a’r realiti yw, y timoedd gorau bydd yn chwarae bob wythnos achos bod y gemau yma mor bwysig.”
Er iddi fod yn gyfnod anodd o ran paratoi, ydych chi’n edrych ymlaen at ddechrau’r gystadleuaeth yma?
GD: “Mae’n gyffrous iawn achos i ni’n dwli ar y gystadleuaeth yma, ac mae’n bwysig i ni roi perfformiad da bob tro. Cyn i’r tymor yma ddechrau, y gêm ddiwetha’ i ni chwarae oedd y rownd chwarteri allan yn Toulon. Mae yna angerdd i chwarae yn Ewrop ac mae bod yn rhan o Gwpan y Pencampwyr yn golygu cymaint i ni.”
Ydych chi wedi bod yn ail-ddangos y fuddugoliaeth dros Gaerfaddon yn y Rec nol yn 2018 i’r bois?
GD: “Y bois sy’ wedi dangos i fi! Roedd hi’n gyfnod arbennig ag yn ymgyrch da i ni, ac i orffen gyda Tadgh Beirne yn ochrgamu i sgorio’r cais yna, anhygoel! Mae’n rhan o’n hanes ni, ac rydym yn falch iawn o hynny. Rôl y grŵp yma ydy i greu mwy o atgofion a mwy o hanes. Fe ewn ni yna gyda enaid y Scarlets yn ein calonnau, a dyna sut fyddwn yn chwarae hefyd.”