Mae’r gêm rownd pedwar Guinness PRO14 rhwng Connacht Rugby a Benetton Rugby wedi’i gohirio.
Roedd y gêm i fod i gael ei chynnal ddydd Sul, Tachwedd 1 yn Galway, fodd bynnag, ni fydd Benetton yn gallu teithio oherwydd nifer fach o achosion positif o Covid-19.
Ar hyn o bryd mae canllawiau iechyd cyhoeddus yn yr Eidal yn atal carfan Benetton rhag ailafael mewn gweithgareddau rygbi ac o ganlyniad ni all y gêm ddigwydd fel y cynlluniwyd.
Gall Rygbi PRO14 hefyd gadarnhau bod Scarlets, a chwaraeodd Benetton yn rownd tri, wedi dychwelyd canlyniadau negyddol o’u profion PCR yr wythnos hon.
Bydd Rygbi PRO14 yn archwilio dyddiadau posib yn gynnar yn 2021 i aildrefnu’r gêm.