Hannah Jones wedi’i chynnwys yng ngharfan 7 bob ochr Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Mae Merched 7 bob ochr Cymru yn anelu at lwyddiant ym Mhencampwriaeth 7 bob ochr Ewrop ar y penwythnos.

Mae’r garfan yn hedfan i Moscow gyda naw ohonynt wedi cystadlu yn Lisbon yn gynharach y mis yma.

Mae un o fenywod y Scarlets Hannah Jones yn dychwelyd o ochr saith bob ochr GB i gryfhau’r garfan, gyda Kat Evans ac Angharad De Smet wedi’u cynnwys hefyd.

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Abrahams, “rydym wedi gweld cynnydd da yn dilyn ein hamser yn Lisbon. Rydym wedi gwynebu sawl her ac anaf o flaen y penwythnos. Er hyn, rydym yn bles gyda’r lefel o gynhaliaeth wrth i edrych at adeiladu a gwella ein perfformiadau.

“Mae’r merched wedi cwblhau twrnamaint nawr ac yn edrych ymlaen at wella ymhellach – ers Lisbon ac wrth gwrs dros y penwythnos.

“Mae’n grêt i gael Hannah nôl gyda ni yn dilyn ei hamser gyda tîm GB. Yn amlwg mae’n siomedig i heb cael ei dewis, fel rydym i gyd ar ei ran; ond rydym yn edmygu’r ffordd mae wedi cynnal ei hun. Mae wedi dod a rhywbeth newydd i’r garfan sydd yn amlwg wedi newid ein steil. Mae Kat Evans ac Angharad De Smet hefyd wedi ychwanegu’n fawr at ein tîm.”

Mae Cymru’n chwarae Sbaen a’r Alban yn y rhan gyntaf o’r gystadleuaeth yn ystod y penwythnos.

Ychwanegodd Abrahams, “roedd Sbaen yn agos ym Mhortiwgal yn gynharach y mis yma ac yn gystadleuwyr cryf gyda llawer o brofiad wrth i gêm yr Alban ddisgwyl yn gyfle gwych ar gyfer frwydr rhwng ddau cenedl cartref.

“Rydym yn canolbwyntio ar wella o bob gêm gan obeithio gweld gwelliannau o’r twrnamaint diwethaf i hon.”

Dywedodd Abrahams bod y garfan yn falch iawn o Jasmine Joyce ar ei cyrrhaeddiad yn y tîm Olympaidd ac Georgia Evans ar cael ei chynnwys yn nhîm Allianz Premier 15 o’r tymor.

“Rydym i gyd mor hapus i Jaz, mae’n mynd i ddangos i’r byd beth mae’n gallu gwneud ac rydym i gyd yn gefnogol iawn, byddwn yn dilyn y gemau Olympaidd yn agos iawn o gartref. Rydym hefyd yn falch iawn o Georgia. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn yn rhyngwladol i ni felly mae’n cyrrhaeddiad arbennig iddi.”

Carfan Merched Cymru 7 bob ochr, Moscow 7s:

Alisha Butchers (Bristol Bears), Alex Callender (Capt, Worcester Warriors), Gwen Crabb (Gloucester-Hartpury), Bethan Dainton (Harlequins), Angharad De Smet (unattached), Georgia Evans (Saracens), Katharine Evans (Saracens), Hannah Jones (Gloucester-Hartpury). Bethan Lewis (Gloucester-Hartpury).