Hardy yn mwynhau her y Pumas

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Kieran Hardy yn benderfynol o herio’r Ariannin ar y pewythnos – ar ôl cwympo’n fyr yng ngêm mwyaf ei fywyd.

Y tro diwethaf i gefnogwyr Cymru i weld Hardy yn y tîm i ddechrau roedd yn ystod y gêm Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror pan ymadawodd y cae yn hercian o’r chwarae.

Mae mewnwr y Scarlets yn barod wedi croesi am un allan o bedwar o geisiau Cymru wrth iddyn nhw treisio’r hen gelyn, ond dynodd ei hamstring cyn i’r chwiban olaf ganu am ganlyniad o 40-24 i gipio’r Goron Driphlyg.

Golygodd hynny ei fod wedi colli allan ar y fuddugoliaeth yn erbyn yr Eidal a’r golled i Ffrainc, ond fydd y mewnwr nôl ar gae’r Principality ar ddydd Sadwrn i wynebu’r Ariannin ac mae’r gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.

“Mae’n dda i fod nôl,” dywedodd y chwaraewr 25 oed, a fydd yn ennill ei bumed cap yn erbyn y Pumas mewn gêm sy’n debygol o fod yn fwy o her i Gymru nag oedd gêm Canada wythnos diwethaf.

“Y tro diwethaf r’on i yma ges i anaf a bennodd lan i mi golli allan ar ddiwedd y Chwe Gwlad. Mae’n grêt i fod nôl a cael y cyfle i wisgo crys rhif naw eto ar y penwythnos.”

Pan adawodd Hardy’r cae yn erbyn Lloegr pedair mis yn ôl, agorodd hynny’r drws i Gareth Davies i ddod oddi’r fainc ac fe wnaeth ei gyd-chwaraewr Scarlet wneud digon i sicrhau ei le yng ngharfan y Llewod.

Mae hynny wedi gadael Hardy – sydd ar rhestr fer y Llewod – i frwydro am ei le yn erbyn Tomos Williams o Gaerdydd am grys rhif 9, tra bod Davies i ffwrdd a Lloyd Williams hefyd gyda’i enw i mewn i’r het.

Ychwanegodd Hardy: “Mae’n grêt i gael cystadleuaeth ac mae hynny’n datblygu ni fel chwaraewyr.

“Mae Lloyd wedi dod i mewn hefyd ac hyd yn oed os dwi ond gyda ychydig o amser ar y cae fe wnai’n siwr bod fy mherfformiad yn gywir ac bod fy egni ar y cae yn cael ei wasgaru trwy’r tîm ar y cae.”

Mae’r Ariannin wedi cynnwys y mwyafrif o’i ser Ewropeaidd yn eu carfan a gyda’r buddugoliaeth 25-15 yn erbyn Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Rygbi ym mis Tachwedd, dylse’r tîm rhoi her enfawr i ochr Wayne Pivac.

Er i’r Pumas ond maeddu Rwmania 24-17 yn Bucharest wythnos diwethaf, mae Hardy yn rhagweld prawf anoddach na’r tro diwethaf yn erbyn Canada.

“Bydd hi’n her gwahanol i benwythnos diwethaf ac yn brawf caled,” dywedodd.

“Maen nhw’n dîm corfforol iawn sydd wedi derbyn canlyniadau da dros y misoedd diwethaf. Bydd y tîm yn hapus gyda hynny ond mae’r bois yn edrych ymlaen at y sialens.

“Bydd y Pumas yn gorfforol ac mae ganddyn nhw gêm cicio da. Bydd hyn yn gyfle i ni, yn enwedig ar y gwrthymosodiad, ac bydd rhaid i ni cyrraedd eu lefel nhw yn gorfforol hefyd.”

Gwyliwch gêm Yr Ariannin v Cymru yn fyw ar S4C, o 12:30 ar ddydd Sadwrn, y gic cyntaf am 1.00yp. Mae sylwebaeth Saesneg ar gael. Catrin Heledd bydd yn cyflwyno gyda Rhys Patchell a Elinor Snowsill a’r sylwebydd Cennydd Davies. Eddie Butler a blaenasgellwr Cymru Ellis Jenkins bydd yn rhoi’r sylwebaeth Saesneg.