Harri Williams, Griff Evans ac Iestyn Rees yn ymuno â Ampthill

Rob Lloyd Newyddion

Mewnwr D20 Cymru Harri Williams, y clo Griff Evans a’r chwaraewr rheng ôl Iestyn Rees i ymuno â chlwb yn y Bencampwriaeth Saesneg Ampthill RFC o flaen tymor 2023-24.

Mae Williams wedi ymddangos dwywaith i’r garfan hŷn ac wedi cynrychioli Clwb Rygbi Llanelli yn y Gynghrair. Ymddangosodd y chwaraewr 20 oed i Gymru yn ystod y Bencampwriaeth Chwe Gwlad D20.

Ymddangosodd y chwaraewr ail reng Evans yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Bristol Bears a’r Saracens tymor diwethaf. Roedd hefyd yn rhan o dîm Llanymddyfri a wnaeth codi tlws y Gynghrair Gymreig.

Chwaraeodd Iestyn Rees chwech o weithiau i’r Scarlets, gan ddod oddi’r fainc yn ystod gêm Dydd y Farn yn erbyn y Dreigiau a’r gêm gynderfynol Cwpan Her yn erbyn Glasgow Warriors.

Hoffir y Scarlets i ddiolch i’r tri chwaraewr am eu hamser gyda’r clwb a dymuno’n dda iddyn nhw am y dyfodol.