Hoffech chi fod yn wyneb y Scarlets?

Menna Isaac Newyddion

Hoffech chi fod yn wyneb ymgyrch tocynnau tymor 2019-20 y Scarlets?

Mae gennym sesiynau arbennig i saethu lluniau cyn ein lawnsiad tocynnau tymor , ac rydym angen chi, ein cefnogwyr mwyaf ffyddlon, fod wrth wraidd hynny.

Am y tro cyntaf, rydym yn lansio cystadleuaeth lle gallwch chi ennill y cyfle i gael llun ar gyfer ymgyrch tocynnau tymor y Scarlets.

Mae’n agored i ddeiliaid tocynnau tymor o bob oed, gyda’r enillwyr yn cael eu dewis ar hap yr wythnos nesaf.

I fod a’r cyfle i ennill, llenwch y ffurflen atodedig a byddwn ni mewn cysylltiad. #YNYPAC

https://goo.gl/forms/Wsfpq38EMH2S0O6Y2