Hwyl yr haf wrth y traeth

Kieran Lewis Newyddion

Mae wastad croesawu twymgalon yn eich haros ym Mharc Gwyliau Pencnwc ac ry’n ni’n falch iawn cael adlewyrchu’r croeso gan groesawu’r cwmni teuluol fel un o’n partneriaid cit.

Wedi’i leoli dwy filltir o’r arfordir ger Cei Newydd mae Pencnwc yn leoliad arbennig ar gyfer gwyliau teuluol yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r parc wedi bod yn nwylo’r teulu ers pedwar deg o flynyddoedd ac mae’n cynnig llond lle o weithgareddau i’r teulu oll.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets; “Does dim ffordd gwell o ddechrau’r haf na chyhoeddi partner cit newydd fel y parc gwyliau arbennig Pencnwc ar arfordir gorllewin Cymru!

“Wrth i ni lansio ein strategaeth masnachol am y dair mlynedd nesaf, gan ffocysu ar y tair sir yn eu tro, ry’n ni’n falch iawn o groesawu Pencnwc fel un o’n partneriaid newydd am y tymor newydd.

“Mae Pencnwc mewn lleoliad arbennig yn y sir ac fe fydd logo’r cwmni yn cynrychioli Ceredigion a’r rhanbarth yn browd iawn ar y cit cartref ac oddi cartref.

“Fe fyddwn ni’n lansio’r cit oddi cartref, sydd wedi ei selio ar arfbais Ceredigion, ar ddydd Llun 13eg Awst yn Aberystwyth ac ry’n ni’n falch iawn o weithio gyda chwmniau fel Pencnwc, Cyngor Ceredigion, Coleg Ceredigion, Radio Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth i gryfhau ein safle yng ngorllewin y rhanbarth.”

Mae’r parc ond ugain milltir i’r de o Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion.

Dywedodd Daniel Davies, Rheolwr Parc Gwyliau Pencnwc; “Mae’r parc wedi bod yn y teulu ers 1969 pan sefydlwyd gan fy nadcu. Rwyf wedi bod yn rhan o’r lle ers roeddwn i’n naw mlwydd oed ac yna dechrau swydd llawn amser ar ôl i mi adael yr ysgol.

“Ry’n ni’n falch iawn o gefnogi’r Scarlets ac mae’n anrhydedd gweld ein logo ar gefn y cit cartref ac oddi cartref.

“Mae’r Scarlets yn gwneud gwaith arbennig yn cynrychyioli’r rhanbarth ac yn gwneud gwaith arbennig y nein cymunedau ar draws y rhanbarth. Ry’n ni’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda nhw gan sicrhau bod y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth.”