Mae’r Scarlets yn hapus i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda iPRO fel Partner Swyddogol Diodydd Chwaraeon.
Fel rhan o’r partneriaeth, bydd iPRO yn darparu eu diodydd isotonic iPRO Sport Edition i’r carfan hŷn, gradd oedran a menywod gyda photeli gallwch ailddefnyddio er mwyn torri lawr ar foteli plastig.
Dywedodd Nigel Ashley-Jones, Pennaeth Perfformiad Corfforol Scarlets: “Rydym wrth ein bodd i bartneri gyda iPRO. Yn chwaraeon proffesiynol, mae pob agwedd yn cyfri ac mae hydradiad yn amlwg yn agwedd bwysig iawn o baratoi ac adferiad. Rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda iPRO fel partner i’n holl dimau Scarlets.
Mae iPRO Sport Edition yn ystod isotonig ardystiedig Chwaraeon Gwybodus, wedi’i lunio gyda chyfuniad ailgyflenwi o electrolytau a charbohydradau ar gyfer ailhydradu gorau posibl.
Bydd y diodydd yn galluogi i’r chwaraewyr i gadw cydbwysedd dwr, gwella cryfder cyhyrol ar gyfer symudiadau cyflym a ffrwydradol ar y cae. Mae’r diodydd yn cynnwys fitamin C. fitaminau sy’n rhyddhau egni’n arfer fel B5, B6 B7 a B12.
Dywedodd Niall Davison, Maethegydd Perfformiad Scarlets: “Mae’n wych i gael y gefnogaeth yma gan iPRO i helpu gwella ein perfformiadau. Rydym yn hoff iawn o’r gwyddoniaeth tu ôl i nwyddau iPRO, gan ddefnyddio cynhwysion naturol, a darparu fitaminau pwysig i helpu tuag at eu perfformiad.
Dywedodd Lucy Darrall, Rheolwr Partneriaid iPRO: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gychwyn y bartneriaeth yma gyda’r Scarlets. Mae hydradiad yn bwysig iawn ar gyfer ymarferion, diwrnodau gêm, a gweithio yn erbyn blinder. Mae ein diodydd yn darparu ffynhonnell hanfodol o fitaminau i helpu’r chwaraewyr i berfformio ar eu gorau. Edrychwn ymlaen at weld y bartneriaeth yma’n tyfu gyda’r Scarlets.
Ychwanegodd James Bibby, Pennaeth Masnachol y Scarlets: “Mae’n wych i groesawu brand fel iPRO i deulu masnachol y Scarlets ac edrychwn ymlaen at weld datblygiad y bartneriaeth dros y tymhorau i ddod.
Bydd cefnogwyr yn gallu prynu diodydd iPRO yn y stadiwm.
MWY AM iPRO
iPRO Website: www.iPROHydrate.com
iPRO Hydrate drinks are coloured by nature and sweetened by natural sources. Only responsibly sourced and high-quality ingredients can be found in a bottle of iPRO. Moreover, the company is committed to long-term sustainability. The entire iPRO product range, and all associated packaging, is 100% recyclable and made from recycled materials. In 2022, iPRO endeavours to reach 75% recycled material packaging.
DILYNWCH iPRO ar gyfryngau cymdeithasol:
Instagram: https://www.instagram.com/iPROHydrate/
Twitter: https://twitter.com/iPROHydrate