Jac ar wireddu’r freuddwyd Scarlets a bywyd yng nghanolbarth Lloegr

Gwenan Newyddion

Gan gyrraedd ei uchelgais gydol oes o chwarae i’r Scarlets ar ddechrau’r tymor, nad yw Jac Price am adael i anaf i’w bigwrn i’w rhwystro rhag dychwelyd i ochr Glenn Delaney.

Mae’r clo 20 oed o Gaerfyrddin yn barod wedi goresgyn llawer yn ystod ei yrfa, er mae dau anaf i’w bigwrn ac anaf i’w ben ond yn rhwystr bach wrth iddo blotio ei ddychweliad i Barc y Scarlets trwy chwarae yn y bencampwriaeth Greene King IPA yn Nottingham yn gyntaf.

Ymunodd Jac ynghyd â’i gyd-chwaraewyr Shaun Evans a Harri O’Connor â’r tîm canolbarth ar ddechrau’r mis diwethaf i allu cael amser chwarae gwerthfawr.

Er i Nottingham golli’r tair gêm ddiwethaf, mae Price yn awyddus bydd newid cyfeiriad am eu gêm nesaf wrth iddynt baratoi i deithio i Hartpury penwythnos yma am gêm sydd yn disgwyl i fod yn gystadleuol iawn.

“Roedd llawer o wynebau newydd yn ystod yr wythnosau cyntaf ac wythnos ar ôl wythnos rydym wedi gwella ond dw i’n credu bod gennym ni cyfle da yn erbyn Hartpury ar y penwythnos.

“Mae wedi bod yn neis i gael chwarae – mae gwahaniaeth mawr rhwng ffitrwydd normal a ffitrwydd am gêm.

“Pan ddes i yma am y tro cyntaf roeddwn yn edrych ymlaen at chwarae rygbi arferol. Mae’r safon yn dda ac mae llawer o chwaraewyr da yma. Dw i wedi mwynhau’r wythnosau diwethaf. Mae symud mewn i le newydd a chwrdd â phobl newydd wedi bod yn grêt ac mae’n grêt i gael y bois yna hefyd.”

Mae Morgan Jones a Jac Price wedi gwneud ei ymddangosiadau cyntaf yn y PRO14 tymor yma

Roedd Jac a nifer o Scarlets ifanc eraill yn rhan o’r tîm d20 wnaeth trechu Seland Newydd yn yr Ariannin yn ystod y bencampwriaeth Rygbi’r Byd. Roedd nifer o chwaraewyr Scarlets yn y tîm gan gynnwys Kemsley Mathias, Ryan Conbeer, Jac Morgan a Morgan Jones, bois sydd wedi cynrychioli’r Scarlets dros y tymor diwethaf.

Gan adael rygbi gradd oedran a dechrau ar lwybr newydd o rygbi proffesiynol llawn amser, gall hyn fod yn anodd llywio ond roedd Price yn benderfynol i adael ei farc.

“Mae llawer o chwaraewyr gyda llawer o ymddangosiadau i’r Scarlets ac yn chwaraewyr rhyngwladol megis Jake Ball, Sam Lousi a Lewis Rawlins felly mae’n gyfle i ddysgu oddi nhw – pethau bach megis y darn gosod a gallu pigo fyny un neu ddau dip yr wythnos a cheisio adeiladu gêm dy hun o hynny,” dywedodd.

Fe wnaeth y gwaith caled talu ffordd wrth iddo gael dau ymddangosiad mewn gemau cyfeillgar yn erbyn y Gweilch a’r Dreigiau cyn iddo wneud ei ymddangosiad PRO14 cyntaf fel eilydd yn erbyn Caeredin i wireddu ei freuddwyd. Cafodd ei dymor i dorri’n fyr yn dilyn dau ddechreuad yn erbyn Zebre ac Ulster wrth iddo anafu ei bigwrn ond mae Jac wrth ei fodd bod ei bartner Morgan Jones wedi parhau i gipio penawdau am ei berfformiadau i’r Scarlets yn yr ail reng.

“Mae’r teulu o hyd wedi cefnogi’r Scarlets, i ni wastad wedi mynd lawr i gefnogi nhw, felly mae wedi bod yn freuddwyd i chwarae i’r clwb ac roedd hi’n deimlad gwych i allu cyflawni hynny. Roedd mynd i wylio’r Scarlets pan oeddwn i’n blentyn a nawr cael chwarae i’r clwb yn anrhydedd enfawr,” ychwanegodd.

“Ar ddechrau’r tymor roedd Morgan a finnau yn ymarfer yn erbyn y tîm i redeg llinellau’r gwrthwynebwyr ac wedyn yn sydyn roedd y ddau ohonom yn chwarae i’r tîm cyntaf – mae’n grêt i weld y bois d20 yn gwneud yn dda.

“Dw i mor falch am ddatblygiad Morgan, mae’r ddau ohonom yn dod ymlaen yn dda ac i ni’n helpu ein gilydd, er enghraifft os dw i’n neud rhywbeth yn anghywir mae Morgan yn dweud wrthai a dw i’n gwneud yr un peth. Mae Morgan yn dalach – wnâi dderbyn hynny. Dwi’n 6ft 6 a hanner ar ddiwrnod da ac mae Morgan yn 6ft 7.”

Dywedodd Price fydd y Scarlets yn buddio yn hir dymor o roi cyfleoedd i nifer o raddedigion Cymru d20 o fewn rygbi rhanbarthol mor gynnar yn eu gyrfaoedd.

“I ni gyd yn ffrindiau da gan ein bod wedi tyfu lan o fewn rygbi gyda’n gilydd ac wedi gwneud y cam i mewn i rygbi rhanbarthol gyda’n gilydd. Mae’r Scarlets wedi rhoi cyfleoedd i sawl chwaraewr ac maen nhw wedi buddio o hynny megis Jac Morgan, Morgan Jones a Tom Rogers sydd newydd ddod nôl o anaf ac yn chwarae’n dda iawn – os ydy’r bois yn parhau i gymryd cyfleoedd bydd hi’n ddyfodol disglair.”